MRS. MARGARET WILLIAMS. UTLEY, WISCONSIN.
Ionawr 20fed, 1888, yn Utley, Wisconsin, Margaret Williams, yn 24 mlwydd oed.Merch ydoedd i Mr. Robert Hughes. Tai Coed, Penmaenmawr, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn Ebrill, 1885, gyda'i thad, tri brawd a thair chwaer. Sefydlodd y teulu yn Utley, ond yn fuan ar ôl hyn aeth yr ymadawedlg i Chicago i wasanaethu gyda Mrs. Strong, Sangamon Street; a thra yn aros yno yr oedd yn aelod gyda'r A. Cymreig.
Mai, 1886, priododd John T. Williams, 90 South Halstead Street, o'r un lle; ac yn fuan wedyn sefydlodd y ddau yn Utley, lle y cawsant y brofedigaeth chwerw o golli eu cyntaf anedig ar y cyntaf o Awst diweddaf. Ar yr 2ail o'r mis hwn wele angeu drachefn yn rhuthro i mewn, ac ar fyr rybudd yn cymeryd ymaith y fam, gan adael ar ôl briod, baban dwy awr oed, tad, pedwar brawd a thair chwaer i alaru eu colled.
Dydd Llun claddwyd hi yn mynweit Fairwater, Wisconsin. Er mor arw ac anfanteisiol cafwyd gwasanaeth Cymraeg a Saesneg yn y capel gan y Parch. Thomas J. Jones (M. C.), yr hwn sydd pob amser yn hynod ffyddlawn i Gymry Utley. Er mor fyr fu y rhybudd, bu y chwaer farw yn dawel. Tad yr amddifald fyddo yn llon'd ei addewid i'r teulu, ac a fendithio yr amgylchiad sydyn i Gymry yr amgylchoedd i'n dwyn I "gyfrif ein dyddiau fel y dygom ein calon i ddoethineb."
JOHN J. WILLIAMS.