MRS. SIDNEY WILLIAMS, BARNEVELD, BLUE MOUNDS, N Y.

Mawrth 12, 1888, yn 77 mlwydd oed, yn ei chartref yn agos i Barneveld, Blue Mounds, bu farw yr hen fam anwyl Mrs. Sidney Williams.

Cafodd ergyd o'r parlys ar ddydd Mercher, a bu farw y dydd Llun canlynol.

Cymerodd y gladdedigaeth le ar 14eg, pan y daeth torf luosog ynghyd i dalu y deyrnged ddiweddaf o barch iddi.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Rees H. Lewis, J. M. Lloyd. Messrs. John H. Davies, Thomas Evans, F. Theobald, ar Ysgrifenydd.

Hebryngwyd ei gweddillion marwol gan dorf luosog i fynwent Capel Gwyn.

Ymfudodd Mrs. Williams, gyda'i theulu o Ffestiniog, G.C., i Racine yn y flwyddyn 1842. Yn 1845, daethant yn mlaen i ardal y Blue Mounds, lle yr arosodd hyd ei marwolaeth. Yr oedd yn fam i wyth o blant; y mae pump yn awr yn fyw.

Yn ei thŷ hi y dechreuodd yr Ysgol Sabbothol gyntaf, ar cyfarfod gweddi cyntaf yn nhrf Ridgeway; hefyd yn ei thŷ hi y corffolwyd yr eglwys Gynulleidfaol gyntaf yn nhref Ridgeway, gan y Parch. D. Jones, Arena, a hyn lawer o flynyddoedd cyn yr adeiladwyd capel nag ysgoldy yn ein tref.

Yr oedd Mrs. Williams, yn wraig ddistaw iawn, ac yn aelod ffyddlawn yn eglwys gynulleidfaol Ridgeway. Yr oedd yn garedig iawn i grefydd a chrefyddwyr. Cafodd yr anrhydedd o wneuthur arddeliad o Iesu Grist yn ieuanc, a bu yn addurn i'w phroffes hyd ddiwedd ei hoes. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

Y Cenhadwr Americanaidd Mai 1888.