MR. WILLIAM J. WILLIAMS. ARCADE, WYOMING COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 9fed, 1888, yn Arcade, Wyoming County, New York, William J. Williams, yn y 78 flwydd o'i oedran.

Ganwyd ef yn mhlwyf Aberdaron, Swydd Caernarfon, Gogledd Cymru yn 1810; ac yn yr ardal hono y treuliodd fore ei oes yn gweini gyda'r amaethwyr.

Yn 1882 ymbriododd â dynes ieuanc o'r ardal o'r enw Jane Jones, ac ymfudasant i'r wlad hon yn yr un flwyddyn, a buont am amryw flynyddau yn preswylio yn Siroedd Oneida a Herkimer. Yn 1851 symudasant i blwyf Freedom, Swydd Cattaraugus, lle y buont yn amaethu hyd ryw ddeg neu ddeuddeg mlynedd yn ôl. Bu iddynt wyth o blant, saith o feibion ac un ferch, pump o'r rhai sydd yn fyw i alaru ar ôl eu tad - oll yn briod. Bu chwech o'r meibion ar faes y gwaed ar yr un amser yn ystod y gwrthryfel, a bu dau o honynt farw o achos y gamdriniaeth gawsant yn ngharcharau y De un pan yn y carchar a'r llall yn ngbartref ei rieni.

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn a berchid yn fawr yn yr ardal lle y preswyliai. Dyn ydoedd o ymddygiad ac o ymadrodd tawel, bob amser yr un fath. Deacon Williams fyddai Americaniaid y pentref a'r ardal yn agos bawb o honynt yn ei enwi bob amser. Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r T. C. oddiar pan yn yr ardal hon; pa gymaint cyn hyny nid ydym yn hysbys. Cafodd ei gladdu yn mynwent capel y T. C. yn Freedom ar y 13eg o'r un mis, y Parch. Mr. Tanson, gweinidog yr M. E. yn Arcade, yn nghyd a'r Parch. G. Griffiths, M. C. yn gweinyddu yn y tŷ, yn y capel ac ar lan y bedd.

Mawrth 15fed, drachefn, bu farw Mrs. Jane Williams, gweddw yr uchod, yn y 76 flwyddyn o'i hoedran - y ddau wedi bod yn cydfyw am tua phum deg a saith o flynyddoedd. Braidd na ddywedem am danynt yn y modd ac y galarnadodd Dafydd am Saul a Jonathan, "Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt."

Dynes a berchid yn anwyl oedd Mrs. Williams gan bawb a'i hadwaenai; dynes wir grefyddol, yr hon a wnaeth ymdrech mawr i hyfforddi ei phlant yn mhen eu ffordd; a gwelodd yr Arglwydd yn dda fendithio ei chyngorion a'i siamplau, canys cafodd weled yr oll o honynt wedi rhoddi eu gyddfau o dau iau Crist. Dynes o gorff egwan ydoedd, a chafodd gryn lawer o gystudd, blinder a gofidiau yn ystod ei hoes, ac yn y blynyddau diweddaf cafodd ei blino yn enbyd gan y crydcymalau. Bu am amser malth yn methu syflyd, ond cafodd ryddhad o'r poenau hyny i raddau helaeth am lawer o fisoedd cyn ei marwolaeth.

Rhyw ychydig ddiwrnodau cyn marwolaeth ei gŵr, cafodd ei tharo yn glaf iawn; nis gwyddom beth oeddynt yn galw y clefyd, ond bu yn ddigon nerthol i gymeryd ymaith ei bywyd hi mewn byr amser.

Ar y 17eg o'r mis cyflawnwyd y gymwynas olaf iddi, trwy osod ei chorff i orwedd yn ymyl ei gŵr yn mynwent capel Salem, efe ar ddydd Llun, hithau ar ddydd Sadwrn, yn yr un wythnos.

Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. Mr. Tanson yn y tŷ cyn cychwyn â'r corff, ac yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. G. Griffiths. Heddwch i'w llwch.
D. P. HOOPER.

Y Drych ~ Ebrill 19eg 1888.