MR GRIFFITH J. DAVIES, UTLEY, WISCONSIN.

Medi 8fed, 1889, yn Utley, Wisconsin, Griffith J. Davies, brodor o Lanaelhaiarn, plwyf Clynnog, Sir Gaernarfon, lle mae iddo rai perthynasau agos i alaru ar ei ôl.

Mae ei dad yn bregethwr parchus gyda y Bedyddwyr yno, ac mae iddo frawd yn bregethwr galluog gyda yr un enwad yn Neheudir Cymru - y Parch. Evan Davies; hefyd mae iddo frawd ieuanc gobeithiol yn efrydu ar gyfer y weinidogaeth gyda y Bedyddwyr yn Ngholeg Ripon, Wisconsin.

Setiwr (paving cutter) ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Daeth i'r wlad yma oddeutu dwy neu dair blynedd yn ôl. Bu yn gweithio yn Utley yr haf cyntaf ac yn ystod y gauaf dylynol, os nad wyf wedi fy ngham-hysbysu, aeth i'r ysgol i Oshkosh, Wisconsin. Yr haf diweddaf bu yn gweithio yn Dell Rapids, South Dakota; ond gan nad oedd yn cael iechyd da symudodd i Missouri, lle y bu yn gweithio am rai misoedd, ac yn aelod rheolaidd gyda'r Bedyddwyr Seisnig yno.

Rhyw bryd yn y gwanwyn symudodd i Pike, Wisconsin, lle y buom yn cyd-letya, ac y daethym i gydnabyddiaeth ag ef. Symudodd ef a phump eraill o honom i Dakota, a bu ef yn gweithio am rai wythnosau; ond cymerwyd ef yn wael, a chan ei fod ef fel ereill o honom yn edrych ar Utley fel ei gartref yn y wlad yma, ac yn dysgwyl y cawsai well iechyd aeth yno i farw. Yr oedd yn aelod rheolaidd o'r Paving Cutters' Union, yr hwn sydd i gyfranu can dolar at ei gladdedigaeth. Yr oedd yn fachgen ieuanc o gymeriad da, calon agored, ac anwyl gan bawb o'i gydnabod. Hyd ag y gwyddom yr oedd wedi cadw ei gymeriad yn ddilychwin er pan ydoedd yn y wlad.

Gan ei fod yn naturiol o dueddiadau rhydd, yn barod ac ewyllysgar i wneyd ei allu i unrhyw un ddeuai ar ofyn, yr oedd yn cael mwy o demtasiynau cryfion nag y mae bechgyn ieuainc o nodweddion gwahanol yn gael; ac felly yn fwy anhawdd iddo gadw ei gymeriad yn bur. Deallwn y byddai yn cymdeithasu a phobl yr Arglwydd lle bynag y caffai gyfle. Yr oedd yn hoff o ymddyddan am grefydd a'i hordiniadau; yn coleddu syniadau uchel ac eang am Dduw a'i ragluniaeth, ac mewn canlyniad yn eiddigeddu drosto. Nid unwaith y gwelsom ef yn dal ar ddynion arferai lwon a rhegfeydd, ac yn apelio yn uniongyrchol at eu rheswm a'u cydwybodau. Byddai yn barod bob amser i gyfaddef ei ddiffygion a'i golliadau ei hun.

Credwn ei fod wedi cyraedd gwlad lle na ddywed neb o'i phreswylwyr "Claf ydwyt." Claddwyd brawd iddo a'i briod yn Missouri.

Cydymdeimlir yn fawr a D. R. Davies, ei unig frawd yn America, ac hefyd a'r perthynasau yn Nghymru. Cafodd gladdedigaeth barchus.
H. W. GRIFFITH.

Y Drych ~ Hydref 17eg 1889.