MR. ROBERT C. DAVIES. WIND GAP, PENNSYLVANIA.

Tachwedd 17eg, 1889, yn 54 mlwydd oed, Robert C. Davies, Wind Gap, Pennsylvania.

Claddwyd ef ar yr 20fed yn mynwent Bangor Northampton, a chafodd angladd parchus neillduol, er mor dyeithr oedd yn y lle - wedi symud yno o Laneford, Pennsylvania.

Yr oedd Robert C, Davies yn enedigol o Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwvd a magwyd ef mewn ffarm o'r enw Cedryn. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Dolwyddelen a Ffestiniog, ac yr oedd yr ardaloedd hyn yn adnabyddus iawn o hono. Yr oedd ei fywyd yn fywyd cyhoeddus o'i ddechreu i'w ddiwedd, ond cyhoeddus fel oferddyn oedd am y rhan foreuol o'i oes.

Tua deunaw mlynedd yn ôl cafodd droedigaeth trwyadl, ac y mae ei hanes yn debyg iawn i hanes bywyd Paul. Ar ôl ei droedigaeth yr oedd yn ddirwestwr trwyadl ac yn grefyddwr dilychwin; nid yn inig yr oedd yn siarad crefydd yn frwdfrydlg a thanllyd ond yr oedd yn byw crefydd yn ei phurdeb. Areithiodd lawer ar ddirwest yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf ac yc oedd yn areithiwr hyawdl a phoblogaldd. Prif bwnc ei fywyd oedd dirwest a chrefydd.

Ydwyf, ei nai,
GLAN EIGIA.

Y Drych ~ Rhagfyr 5ed 1889.