MRS. ELIZABETH EVANS. 79 WHITESBORO STREET, UTICA, NEW YORK.

Gorphenaf 30ain, 1889, yn 71 mlwydd ac 8 mis oed, Mrs. Elizabeth Evans, 79 Whitesboro Street., Utica, New York, gan adael ar ei hol bedwar o blant - Hugh D. a John O. Evans, Mrs. George Harris a Mrs. W. J. Owens, oll o Utica.

Ymfudodd i'r wlad hon o ardal Penmorfa, Arfon, tua 43 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn ddynes dra goleuedig, ac wedi arwain bywyd crefyddol. Bu am flynyddau lawer yn aelod gyda'r T. C., ond yn y blynyddau diweddaf, er mwyn cyfleustra, yr oedd wedi ymaelodi gyda'r Wesleyald, ac amlygai ddawn arbenig wrth orsedd gras yn yr addoliad cyhoeddus.

Cafodd angladd parchus ddydd Iau, y Parch. Robert Williams, M. A., yn gweinyddu.

Y Drych ~ Aswt 1af 1889.