MR. GRIFFITH EVANS. 10 STARK STREET, WEST UTICA, NEW YORK.

Rhagfyr 20fed, 1889, yn ei gartref, 10 Stark Street, West Utica, New York, Griffith Evans, yn 64 mlwydd oed. Ganwyd ef yn y Bwlch, plwyf Clynin, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru, Chwefror 15fed, 1825.

Bu farw ei rieni, Daniel ac Ann Evans, pan oedd Griffith yn lled ieuanc, gan ei adael dan ofal William ei frawd, gyda'r hwn yr ymfudodd i'r wlad hon pan yn 18 mlwydd oed, gan ymsefydlu yn Oriskany Valley.

Yno, yn 1851, priododd gyda Mrs. Evans, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw gyda'i dwy ferch amddifad. Ar ôl priodi daeth i fyw i West Utica, yn yr hwn le y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a achoswyd gan y pneumonia, wedi wythnos o gystudd caled. Yr oedd yn weithiwr diwyd ac ymroddgar, yn ddyn gonest a charedig, yn briod tyner a thad gofalus. Bu yn ngwasanaeth y New York Central Railroad Company am 21 mlynedd, ac wedi hyny yn ngwasanaeth y D., L. and W. R. R., a bu y naw mlynedd diweddaf yn wyliedydd i'r Canal Branch Company, ger y ddinas hon.

Dydd Mawrth, y 24ain, daeth lluaws yn nghyd i herwng ei weddillion i Forest Hill Cemetery, ac yn eu plith gwelsom ei neiod, Dr. Edwin Evans, Barnwr I. J. Evans, Rome, a Mrs. Jones a'i phriod, sef y Parch. R. T. Jones, Philadelphia, a'i gefnder David Evans.

Cafodd angladd parchus. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. Mr. Bigelow a'r ysgrifenydd.
THOMAS MORRIS.

Y Drych ~ Ionawr 2ail 1890.