MRS. JANE EVANS. CAMBRIA, WISCONSIN.

Yn Cambria, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, ar ôl 17 o fisoedd o gystudd, yn 48 mlwydd oed, Mrs. Jane Evans, gwraig Mr. Richard R. Evans, a merch i William a Catherine Jones, Gelli, plwyf Trefriw, Sir Caernarfon.

Daeth gyda ei rhieni i'r wlad hon yn 1847, a gwnaethant ymsefydlu yn agos i Cambria.

Priododd yn 1870, ac yn awr y mae ei phriod ac un mab yn galaru ar ei hol. Yr oedd Mrs. Evans yn aelod crefyddol hardd, yn ddynes siriol, garedig, unplyg a chywir, ac yn goron ar y cwbl credwn ei bod yn dduwlol. Er yn perthyn unwalth i deulu lluosog, nid oes erbyn hyn ond brawd a chwaer iddi yn weddill gan angeu.

Cafodd gladdedigaeth parchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Rowe a Perry (A.) J. Hammond a'r ysgrifenydd. Bendithied Duw ei phriod a'r un bachgen y gweddiodd lawer drostynt.
R. H. EVANS.

Y Drych ~ Mai 30ain 1889.