MR. JOHN ELLIS EVANS. WOODBINE, JO DAVIES COUNTY, ILLINOIS.

Mehefin 16eg, 1889, ar ôl tua blwyddyn o nychdod, John Ellis Evans, Woodbine, Jo Davies County, Illinois.

Ganwyd ef yn Clynog, Sir Gaernarfon, yn 1813; ac yr oedd yn gefnder i'r diweddar Eben Fardd.

Ymfudodd i America yn 1845, gan ymsefydlu yn Racine, ond symudodd oddiyno yn fuan i Sir Iowa, yn yr un Dalaeth. Wedi hyny treuliodd rai blynyddau yn mwngloddiau plwm Galena, East Fork, Butcombe a New Diggings. Tra yn Galena, yn 1851, priododd Miss Catherine Hughes; yna symudasant i amaethu i Woodbine.

Ganwyd iddynt bedwar o fecbgyn a phump o ferched; ac mae chwech o'r plant yn fyw i alaru ar ei ôl. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn parchus iawn, ac o gymeriad rhinweddol; a bu yn llenwi amryw swyddi yn y drefgordd.

Claddwyd ef ar y 16eg, yn Jewell's Prairie Cemetery, y Parch. F. H. Schult a Mr. T. M. Roberts yn gweinyddu.
W. F. J.

Y Drych ~ Awst 8fed 1889.