MR. GRIFFITH GRIFFITHS. PENRHYN, CALIFORNIA.
Hanes Chwareli Penrhyn - Rhagoriaeth y Ceryg - Cymeriad uchel y perchenog - Y Cymry eraill yn Penrhyn - Perffaith Gydgordiad.SAN FRANCISCO, Ionawr 25ain, 1886. — Ar yr ystyriaeth ein bod yn gwasanaethu ein cydgenedl, gan roddi iddi achos llawenydd priodol yn llwyddiant un o'i meibion, yr ydym yn ysgrifenu am Penrhyn, California, a'i sefydlydd - Mr. Griffith Griffith. A chan nad oes genym, yn America, gyfrwng mor eang ei ledaeniad i ddwyn ein cydwladwr i sylw y Cymry, yr ydym yn gofyn yn ostyngedig i'r DRYCH am gyhoeddi yr ysgrif hon. A dywedwn, yn gyntaf oll, mai teilyngdod yn unig sydd yn ein cymell ni i ysgrifenu, ac i ddymuno eich gofod chwithau i'r erthygl ganlynol.
Nid Penrhyn Arfon, na Phenrhyn Gobaith Da, Affrica, ond Penrhyn California, sydd genym i'w ddwyn o flaen darllenwyr y DRYCH. Eithr diau mai o deimlad da at, a chof parchus am y blaenaf y galwyd y lIe hwn wrth yr un enw - yn enwedig pan gofiom mai ceryg ydyw nwydd mawr masnach, a hanfod bodolaeth yr olaf yn gystal a'r blaenaf. Carem roddi syniad i'n darllenwyr am leoliad Penrhyn. Gwyddant yn dda, yn y cyffredin, am Sacramento a San Francisco. Deled y darllenydd gyda ni yn ngherbydres y Central Pacific o Penrhyn i'r De-orllewin. Yn mhen 28 milldir cawn Sacramento, ac yn mhellaoh eto, 102 o filldiroedd, cawn San Francisco, o fewn rhyw bum milldir i'r Mor Tawel.
Canfyddir, felly, mai 130 milldir sydd o Penrhyn i San Francisco, dinas fwyaf California. Y mae Penrhyn yn gyfleus iawn i gludiad, a dyfodiad i mewn a mynediad allan; a cerbydres cledrffordd Ganolog y Tawelog yn ol ac yn mlaen drwy'r lle ar ei hynt i'r gorllewin a'r dwyrain, droion yn y dydd. Breintir Penrhyn a'r newyddiaduron dyddiol o'r dinasoedd uchod, llythyrau a brysebion o bob parth o'r byd yn gyfleus ac amserol. Ceidw hyn y trigolion mor hyddysg yn holl symudiadau y byd a phe yn byw yn San Francisco ar y Tawelog, neu Efrog Newydd ar y Werydd.
Mae yn Penrhyn 500 o drigolion, mwy neu lai; a llawer o honynt yn Gymry. Ceir yma ddau addoldy prydferth (M. E. a B.); Masonic Hall o waith ceryg (ithfaen oll) mor hardd ei furiau ag a welsom erioed. Y mae yn deilwng o'r Menlo Park ei hun. Y mae manteision y lle yn ei wneyd yn dref gysurus, gynyddol a blodeuog.
Cloddfa lthfaen (granite) Penrhyn, yw yr hyn sydd yn codi y lle i sylw yr holl Dalaeth. Nid oes ei bath yn California, na'i gwell, hwyrach, yn y byd. Dywed yr "Engineer of the Pacific" - newyddiadur a gyhoeddasid hyd yn ddiweddar yn San Francisco: "The quality of the Granite at Penrhyn is superior to any yet discovered in the United States, if not in the world, because it is free from iron, and never changes its color." Dyry yr "History of Placer County" yr un dystiolaeth am ansawdd Ithfaen Penrhyn. Aeth son am dani i glustiau yr awdurdodau goruohel yn Washington; ac mewn canlyniad i ohebiaeth oddiyno anfonwyd esamplau o hono i'r Department of the Interior, am y rhai yr ysgrifenwyd yn ol at berohenog y gloddfa: "I can assure you that your collection of granites excites much interest; and they are considered to be as beautiful as any stones in our whole collection. I have been surprised that you should be able to find so many beautiful granites in such limited area, a.y., a.y."
Yn awr, pwy sydd wedi darganfod, agor, a gweithio yn mlaen y gloddfa werthfawr hon? Cymro o waed coch cyfa, o'r enw GRIFFITH GRIFFITH. A phwy, hefyd, yw y boneddwr hwnw? gofynir yn mhellaoh. Ganwyd ef yn ffermdy y Ty Gwyn, ger Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Rhagfyr 8fed, 1823. Ei rieni oeddynt David a Mary (Robert) Griffith. Bu farw ei dad, gan adael gweddw a saith o blant i alaru ar ei ol, pan oedd Griffith yn yn 14 mlwydd oed. Cynorthwyodd yntau ei fam ar y ffarm hyd nes oedd yn 19 mlwvdd, pryd yr aeth i weithio i chwarel leohi, a buan y daeth i safle goruchwyliwr ar nifer o'i gydweithwyr. Cyn hir, cododd awydd arno i weled mwy o'r byd; dyrchafodd ei olwg dros y Werydd; croesodd y weilgi hwnw, a glaniodd yn America yn Mehefln, 1847; a chyn nemawr o amser ceir y gwr ieuanc anturiaethus yn nghloddfeydd ithfeini Quincy, Massachusetts, lle hefyd y dechreuodd ei yrfa fel stone cutter. Ond wedi treulio tua chwe' blynedd yn ddiwyd a diflino yn ymberffeithio yn ei gelfyddyd newydd yn nghloddfeydd Quincy, Millford, a Lynnfield, Massachusetts, ac eiddo Millstone Point, Connecticut, aeth ar ei hynt yn mhellach i'r gorllewin - i California, a chyrhaeddodd San Francisco ar y 14eg o Ebrill, 1853.
Wele y gwr ieuanc Griffith yn ei brime, yn 30 mlwydd oed, mewn dinas fechan newydd ymddangos ar lan y Tawelfor, ac mewn Talaeth ieuanc addawol. Pa beth a ddaw o hono? Pa les fydd o'i ddyfodiad? A gaiff California deimlo oddiwrth ei fedrusrwydd, ei yni, ei ddyngarwch, a'i Omeryddiaeth? A fydd celf yn fwy cain, prydferthwch yn fwy gwych, nerth yn fwy cadarn, ac adeilyddiaeth yn fwy godidog o ran ei laniad ef ar ei thraeth? Ai ynte ymollwng a wna efe, fel llawer eraill, gydag arferion llygredig y ddinas a'r wlad? Dyna ofyniadau pwysig, ac yn cyraedd dyfnderoedd cymeriad dyn yn mhob perthynas - gweithfaol, teuluol, gwladol a moesol. Ond, llawenydd nid bychan genym allu dwyn tystiolaeth ddi-betrus iddo ef yn fuan wneyd i California deimlo fod ynddi Gymro dirodres yn cerfio cymeriad o enwogrwydd ar ei chreigiau caletaf, gan ffarfio ei hithfeini i ddelwau ei feddyliau, eu llyfnhau a'u caboli fel gwydrau i adlewyrchu arluniau y rhai a edrychant arnynt. Efe yw tad gweithiau ithfeini California. Y gloddfa gyntaf yn y Dalaeth efe a'i hagorodd, a hyny yn Swydd Sacramento. A buan yr aeth son am ei waith trwy barthau mwyaf poblogaidd y Dalaeth i lawr hyd San Francisco, gan ddwyn galwadau cynyddol am granite Griffith o'r trefydd a'r dinasoedd, fel y bu raid iddo gloddio am gloddfa fwy i allu llenwi yr archebion.
Hyn a'i harweiniodd i agor y gwaith a adnabyddir yn awr wrth yr enw bythgofiadwy PENRHYN, yr hwn sydd wedi ei gerfio a "phin o haiarn" yn ngreigiau ithfeinol California. Cychwynwyd y gloddfa hon yn y flwyddyn 1864; ao erbyn heddyw y mae mor adnabyddus trwy y Dalaeth hon a holl ochr fawr y Mor Tawelog, a phe buasai yn ddinas o ugain mil o drigolion, ac uchod. Eithr nid yw eto ond ugain mlwydd oed; ac ymddengys yn heinif, siriol a iachus. Nid yw adnoddau Penrhyn, modd bynag, ond dechreu ymddadblygu; mae y cyflenwad yn anhysbyddadwy. Er yr anfonir tua deng mil o dunelli bob blwyddyn allan o'r gloddfa hon, eto nid ymddengys y cyflenwad nemawr llai. A chan fod ei hadnoddau mor gyflawn a rhagorol, y mae ei dyfodol yn dra addawol. Anfonwyd samplau o ithfeini Penrhyn i Arddangosfa fawr '76 yn Philadelphia, a dyfarnwyd hwy y rhagoraf yn y byd mewn bod yn lan oddiwrth haiarn a rhwd, a digyfnewid yn eu lliw. Dwg y ffaith hon y lle fwyfwy i sylw, a galw helaethach beunydd am ei chynyrch. A phe na buasai am y marweidddra sydd drwy y byd ar fasnach y dyddiau hyn, buasai yn Penrhyn ugeiniau os nad canoedd mwy o weithwyr nag sydd yn bresenol; ond, pan ymadnewydda yr amserau teimlir oddiwrth hyny yn ebrwydd yma, gan ei fod, hyd yn nod yn awr, yn llawn mor fywydol ag un man arall yn y Dalaeth.
Gall hanes cywir o'r lle hwn wroli ein dewrion a'n hanturiaethwyr Cymreig yn y Talaethau Unedig. Gan fod llwyddiant yn coroni ymdrechion diflino, gonestrwydd di-wyrni, a boneddigeiddrwydd dirodres mewn un engraifft, gall, a dylai yr un egwyddorion o dan amgylchiadau ffafriol sicrhau canlyniadau cyffelyb mewn engreifftiau eraill. Mae yn Penrhyn gyfleusderau yn gystal a nwyddau i droi allan waith a chyflenwi archebion ar radd eang. Cymerwn y felin gaboli yn engraifft. Hon yw yr unig un o'r fath yn y Dalaeth, medd yr "Engineer of the Pacific." Mesura yr adeilad 200 troedfedd o hyd, a 40 troedfedd o led. Gellir cyrchu careg ar y cerbydau sydd yma i'r perwyl hyny o ddeg tunell ac uchod, yn rhwydd, i'w llyfnhau a'i chaboli. Yr oeddym yn synu wrth weled y fath dalpiau trymion, a cholofnau mawrion o ithfeini yn myned i'w lle mor hawdd a dirwgnach i dderbyn triniaeth a'u gwnelent mor loyw a'r grisial a llyfn a'r "gwydr Ffrengig." Troir allan o'r weithfa hon bob math o golofnau, ceryg adeiladu, a beddfeini - yr oll o'r gwaith tecaf a goraf. Ac yn y sheds y mae lle i tua 200 o stone cutters i weithio gyda'u gilydd. Ceir mewn peirianwaith, adeiladau, a.y. bob darpariaeth i wneyd gweithiau ithfaen Penrhyn y rhai mwyaf hylaw, effeithiol a llwyddianus yn y Dalaeth.
Yn awr, dyna y gloddfa sydd gan ein cydwladwr Mr. Griffith Griffith yn Penrhyn; ac adlewyrcha yn ffafriol ar anturiaeth, medr, a dyfalbarhad y Cymro twymgalon hwn, gan ei ddwyn i sylw seiri, adeiladwyr, ac arch-adeiladwyr, yn gystal a swyddogion adeiladau cyhoeddus yr holl Dalaeth, fel y blaenaf, y cywiraf, a mwyaf ymddiriedol o bawb yn masnach ithfeini California. A ydyw hyn yn ormod i'w ddweyd am un o feibion Gomer ar y Pacific Slope? Chwareu teg i'r hen genedl gael ei heiddo gan nad yn mherson pwy y bo. Rhodder clod i'r hwn sydd yn ei haeddu - "Eiddo Caesar i Caesar."
"Ond," gofyna y darllenydd, "a ydyw ceryg Penrhyn wedi ac yn cael eu defnyddio yn mhrif adeiladau y Dalaeth?" Mae yr adeiladau gwychaf a mwyaf costfawr, yn dwyn teyrnged i Penrhyn, megys y Capitol, swyddfa fawr Wells, Fargo and Co., yn Sacramento, sylfeini yr U. S. Mint, y New City Hall, y Stock Exahange, y Real Estate Associates Building, palasau gwychion Charles Crocker, Gov. Stanford, Mark Hopkins, ac eraill, yn San Francisco; y Dry Docks yn Vallejo; ac addurnir y Menlo Park gan ithfaen Penrhyn, yn gystal ag adeiladau o nod o bob dullwedd, rhy luosog i'w henwi. Ac am gofgolofnau, cynrychiolir Penrhyn yn nghladdfeydd Laurel Hill, Calvary, y Masonic, a.y., ger San Francisco. Ynddynt ceir y colofnau a'r vaults gwychaf a mwyaf drudfawr oll oddiyma. Enw Griffith Griffith, Penrhyn, welir amlaf ar y dosbarth uwchraddol o feddfeini dinasoedd y meirw.
Deled y darllenydd gyda ni am fynyd, i'r park eang, prydferth, yr hwn sydd un o'r rhai godidocaf yn America - y Golden Gate Park. Dacw gofgolofn yr anfarwol GARFIELD! Cyfeiria y canoedd ymwelwyr sydd yn dyfod yma bob dydd i foddhau en cywreinrwydd, eu golygon at hon. Nid oes neb ddelo i mewn yn gweled climax y Golden Gate Park, nes canfod a syllu ar ein Harlywydd merthyredig yn ei gofgolofn a'i dawdd-ddelw. Ond, yn Penrhyn y cloddiwyd yr ithfaen, ac yno ei lluniwyd, ei cabolwyd, ac y cerfiwyd ynddo yr anwyl enw GARFIELD, yr hwn a drosglwyddir i'r oesau dyfodol, gan y gofgolofn ardderchog hon. Wrth anfarwoli y Cristion, y gwleidyddwr, a'r gwron, anfarwolir y cerfiwr Griffith Griffith hefyd. Fel Phidias gynt, yn gwneyd i'w gerfddelw i Minerva adlewyrcha ei athrylith a'i ddelw ei hun, felly hefyd y Cymro Griffith wrth godi coffadwriaeth i fab anwylaf America, o ithfaen Penrhyn, a gododd iddo ei hunan gofgolofn a'i ceidw yn fyw am oesau. Bydd yn "llefaru eto" gyda Garfield pan yn huno "gyda'i dadau."
Yn wir, llamai ein calon gan lawenydd wrth weled enw un o "fechgyn yr Eryri" wedi ei gerfio yn yr un "graig dros byth" ag un o feibion calon y weriniaeth fawr Americanaidd. Yr ydym yn nodi y ffeithiau uchod i ddangos fel y cynrychiolir cenedl fechan barchus y Cymry yn newis ac uchel leoedd California, drwy gymeriad, gweithredoedd, a masnach ein cydwladwr o'r Penrhyn.
Da genym weled, hefyd, ei fod mor ofalus am a charedig wrth ei weithwyr, ac nad yw yn ei lwyddiant, fel rhai, yn anghofio ei genedl yn ol y cnawd. Nid yw yn ymffrostio ar air ei fod yn Gymro, a thrwy weithredoedd yn gorthrymu y Cymry sydd yn ei wasanaeth. Cynorthwya hwynt oll yn eu hamgylchiadau a'u diogelwch hyd y gallo. Y mae yn bleser ganddo weled teuluoedd a bechgyn ieuainc yn dyfod yn mlaen yn gysurus, ao yn cadw eu harian, yn hytraoh na gwario yr oll ar oferedd. Cefnoga foes, sobrwydd, a chrefydd. Efe roddodd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd y capel newydd hardd sydd gan yr Eglwys Esgobol yn Penrhyn a chyfranodd ef a'i garedig briod yn helaeth at yr anturiaeth; a thrwy eu haelioni hwy, eu gweithwyr, ac eraill, bydd yr addoldy yn fuan yn ddiddyled, heb fyned allan o'r gymydogaeth i gasglu sent ato. Dyna beth anaml yn California, yn gystal a Thalaethau eraill.
Boneddiges o Dalaeth Maine ydyw Mrs. Griffith; ei henw cyntefig oedd Miss Julia Ann Partridge. Ac er o genedl arall, eto, buasai yn anhawdd i Mr. Griffith daro ar gydmar bywyd mwy pwyllog, doeth, a gofalus o hono ef a'i amgylchiadau. A Miss Effie, eu hanwyl ferch, sydd foneddiges ieuanc, fwyn, a pharchus gan bawb - ddiwyd gartref, a defnyddiol yn yr eglwys. Arni hi y gorphwys y rhan fwyaf o'r canu, fel organyddes ac arweinyddes. Medda lais rhagorol, a defnyddia y cyfoeth swynol hwnw i'r dybenion uchaf. Ymgynulla y bechgyn Cymreig yn aml i dy eu noddwr, a chroesawir hwy yn siriol gan Mrs. Griffith a Miss Effie, a chana hwythau weithiau hen emynau Seion Gymreig, megys:
"Gwaed dy groes sy'n codi fyny," a.y.
ac "O fryniau Caersalem ceir gweled," a.y.
neu "Gosod babell yn ngwlad Gosen," a.y.
nes y byddo hen gordiau melusion a chryfion Gwalia yn adseinio drwy gymoedd llethrau y Mor Tawelog, a Mr. Griffith yn toddi fel cwyr yn ngwres eu peroriaeth. Bryd arall, ceir clywed caniadau ac emynau Seisnig mor swynol eu melodedd a dim a glywsom erioed. Ac meddai ein oalon ninau wrth ddychlamu o lawenydd yn nghanol melodedd miwsig: "Y gwyr ieuainc" aiddgar hyn, "O. mor felus, ac mor hyfryd" yw trigo o fechgyn Cymreig yn nghyd yn y gorllewin euraidd!
GAN Y PARCH. M. A. ELLIS, A. M.
Y Drych ~ Chwefror 11eg 1886.
MR. GRIFFITH GRIFFITHS. PENRYN, CALIFORNIA.
Bu y Cymro parchus a thra adnabyddus uchod farw yn San Francisco, ddydd Sul, Chwefror 17eg, ar ol dyoddef oddiwrth flinder yn ei gylla am tua blwyddyn.Efe ydoedd sefydlydd y pentref a elwir Penryn; a phrif berchenog y ohwarelau ithfaen yno. Ganwyd yr ymadawedig yn ffermdy y Ty Gwyn, ger Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Rhagfyr 8fed, 1823; felly yr oedd dros 65 mlwydd oed pan gymerwyd ef ymaith.
Glaniodd yn America yn 1847, a bu yn gweithio ei grefft fel naddwr ceryg am tua chwe' blynedd yn Quincy, Millford a Lynnfield, Massechusetts, ac yn Millstone Point, Conneticut.
Ar y 14eg o Ebrill, 1853, cyrneddodd San Francisco; a thrwy ddiwydrwydd a darbodaeth llwyddodd yn y byd. Efe ydoedd tad gweithiau ithfeini California. Y gloddfa gyntaf yn y Dalaeth, efe a'i hagorodd, sef yn Coloma, Eldorado; wedi hyny agorodd ohwarelau yn Mormon Island a Negro Hill. Fel yr oedd y galwadau am geryg yn cynyddu arweiniwyd ef i agor chwarel yn Penryn tua'r flwyddyn 1864; ac fel "Griffith Penryn" yr oedd ei enw yn fwyaf adnabyddus er's blynyddau.
Y mae wedi gadael ar ei ol yno wraig a merch. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn cymdeithasgar, a hoffid ef gan bawb a ddeuent i gysylltiad agos ag ef. Yr oedd yn aelod o Urdd y Free Masons, yn Knight Templar, Thirty-second Scottish Rite, Knight Defender of the Scottish Star, ac yn aelod dros oes o'r Cambrian Mutual Aid Sooiety, San Francisco.
O ran ei ddaiiadau politioaidd Gwerinwr ydoedd; ond nid oedd ganddo awydd am swydd.
Dygwyd ei weddillion i'r Penryn dydd Mawrth y 19eg, lle y oynaliwyd gwasanaeth yn ol defod y Free Masons. Dranoeth claddwyd ef yn Cemetery yr Odd Fellows yn Auburn.