MRS. ANN HUGHES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Tachwedd 28ain, 1889, yn Minneapolis, Minnesota, yn 47 mlwydd oed, o'r cancer yn yr ystumog, bu farw Mrs. Ann Hughes. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Ffestiniog, Gogledd Cymru, ac yn ferch i William ac Ann Hughes. Bu ei thad yn brif oruchwyliwr ar chwarel y Diphwys, yn y plwyf uchod. Yr oedd ein chwaer yn un o wyth o blant, a hi oedd y trydydd a fu farw o'r wyth.

Gan i'w rhieni symud i fyw i Dolyddelen, yn y lle hwnw y treuliodd hi ei dyddiau boreol. Claddwyd ei thad pan yr ydoedd hi yn ieuanc. Derbyniodd ei haddysg yn Lerpwl, ac oddi yno y symudodd i'r wlad hon yn 1859, gyda'i hewythr, Mr. David Williams, Tanybwlch, Cambria, Wisconsin.

Ymbriododd â Mr. Thomas W. Hughes, sef mab i Mrs. Mary Williams, Foreston, Iowa, a brawd i'r Parch. Robert Hughes, yr hwn sydd yn awr yn oruchwyliwr dros y Feibl Gymdeithas Americanaidd yn y Dalaeth hono. Bu Mr. Hughes yn masnachu mewn sych-nwyddau yn Chicago, Illinois am flynyddoedd hyd nes y gwaelodd ei iechyd.

Ar ôl hyn symudodd ef a'i deulu ar ffarm a brynodd yn Lime Springs, Iowa. Gŵr da ydoedd ef, a gair da iddo. Ar ôl ei ddydd ef bu Mrs. Hughes, a Clara, ei hunig blentyn, Mrs. Kenedey yn awr, yn byw dros amser ar y ffarm. Symudodd oddi yno i Minneapolis. Dyoddefodd gystudd graddol, ond caled, am ddwy flynedd lawn. Bu ganddi dri o blant, ond Mrs. Kenedey yn unig sydd yn fyw i alaru ar ôl ei mam.

Bu farw mewn llawn hyder ffydd. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei hol. Aeth yr ysgrifenydd gyda'i gweddillion, yn nghymdeithas y teulu, a'i brawd, Tenorydd Machno, i gladdfa Foreston, Iowa, lle y claddwyd hi wrth ochr ei phriod, Mr. Thomas W. Hughes.
JOSEPH ROBERTS.

Y Drych ~ Rhagfyr 12fed 1889.