MR. THOMAS ROWLAND HUGHES. WATERVILLE, NEW YORK.

Ionawr 16eg, 1889, yn nhy Mr. Edward P. Hughes, Waterville, New York, ar ôl dyoddef am fisoedd dan y darfodedigaeth, Thomas Rowland Hughes, o Utica. yn 25 mlwydd, 9 mis a 2 ddiwrnod oed.

Mab ydoedd i'r diweddar Thomas Hughes, Manchester House, Bala, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon o dair i bedair blynedd yn ôl. Claddwyd ef yn Waterville.

Y Drych ~ Ionawr 24ain 1889.


MR. THOMAS ROWLAND HUGHES. WATERVILLE, NEW YORK.

Ionawr 16eg, 1889, yn 26 mlwydd oed, Thomas R. Hughes, Waterville, New York, a chladdwyd ef ar y 18fed. Daeth i'r wlad hon o'r Bala, Gogledd Cymru yn Awst, 1886, ac ymsefydlodd yn Utica. lle y bu yn gwasanaethu gyda W. M. Owen a'i Gwmni, masnachwyr.

Nid oedd yn gryf o ran iechyd pan ddaeth drosodd; ond nid mor wan fel na allal gyflawni ei waith gydag hawsder. Daeth i'r ardal hon at berthynas iddo, sef Mrs, Price Hughes a'i mab Edward Hughes, tuag wyth mis cyn ei farw, wedi gwaelu yn fawr yn ei iechyd. Yr oedd wedi bod yn dihoeni cryn amser yn Utica cyn dyfod yma, gan geisio cael gwellhad trwy ymgyngori â meddygon, yr hyn fu yn gwbwl aneffeithiol. Cafodd ofal a thynerwch mam gan Mrs. Hughes, ac nis gallasai brawd naturiol fod yn fwy caredig tuag ato a thyner o hono, ac yn fwy pryderus yn ei gylch nag y bu Edward Hughes. Ni fu arno eisiau dim yn ystod ei gystudd; beth bynag a chwenychai pwrcasent ef yn ddioed, a gwylient drosto bob eiliad, a chyda hyn oll cafodd y gofal meddygol goreu; ond ni thyciodd dim i barhau bywyd trwy gadw angeu draw.

Credwn mai yn y Bala y ganwyd ef. Claddodd ei fam pan nad oedd ond wyth oed, a'i dad pan yn lOoed. Gofalwyd am dano wedi claddu ei rieni gan ei daid a'i nain, ac y maent hwy yn aros hyd yr awr hon, er yn oedranus, ac yr oedd y newydd trist o farwolaeth un mor anwyl ganddynt yn brofedigaeth chwerw iddynt yn niwedd eu dyddiau.

Codwyd Thomas i fyny ar aelwyd grefyddol, ac yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiad Calfinaidd er yn ieuauc, a daliai ei aelodaeth yn Moriah, Utica, pan fu farw. Dyn hynaws a dymunol iawn ydoedd, a hoffid ef gan bawb y deuai i gyffyrddiad â hwy. Yr oedd yn awyddus iawn am wella, a theimlai yn hyderus am fisoedd mai felly y byddai. Yr oedd yn naturiol i ddyn ieuanc deimlo felly; ond rhoddodd i fyny bob gobaith am adferiad yn hir cyn dyfod y diwedd, a sylweddolai ei sefyllfa. Byddwn yn ymweled ag ef yn gyson, gan wneyd yr oll a allom er ei gysur ysbrydol, ac yr oedd yn mawr fwynhau yr adegau hyny.

Mawr hoffai hen emynau Cymreig, a darllenid y rhai a ddetholai efe yn aml iddo, a phe buasai ei nerth yn caniatau buasai eu canu yn hyfrydwch mawr iddo, gan ei fod yn gerddor gwych. Nid oedd yn ofni marw. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ôl. Pan ofynasom iddo nid yn hir cyn i'w ddatodiad gymeryd lle "A oedd yn telmio yn ddigalon?" "Weithiau" meddai, "ond byddaf hefyd yn teimlo yn hyderus." Gofynwyd iddo gan ei gyfaill Hughes, "A oedd yn ofnl marw?" "Ofni," meddai, "a minau yn credu yn Iesu Grist."

Dygwyd ei gorff i'r capel Cymreig, a chyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parchn. Thomas Jenkins a B. H. Wllilams, a chanwyd yn effeithiol gan ran o'r côr. Cyflawnwyd y gwasanaeth wrth y bedd gan T. Jenkins. Oafodd gladdedigaeth lluosog lawn ac hynod barchus.
THOMAS JENKINS.

Y Drych ~ Ebrill 4ydd 1889.