MR. JOHN R. HUMPHREYS. OSAGE CITY, KANSAS.
Tachwedd 21ain, 1889, yn Osage City, Kansas, ar ôl gwaeledd o flwyddyn a naw mis, John R. Humphreys; a chladdwyd ef yn barchus ar y 23ain yn mynwent y lle.Ganwyd ef yn Beddgelert, Mawrth 21ain, 1844. Enwau ei rieni oedd Richard J. a Margaret Humphreys.
Pan tuag ugain oed aeth am dro i New Zealand. Wedi cyraedd i ymyl y wlad cododd yn ystorm gref, ac yn ei chanol taflwyd y llong ar graig a syrthiodd yr hwylbreni - un o honynt ar goes y Cymro nes ei dryllio. Profodd yr ystorm yn ddifrifol iawn i'r teithwyr a'r dwylaw. Yn ei chanol anghofiodd John bob peth, ond fod ganddo fywyd, ac er fod asgwrn ei goes yn doredig, pan oedd y llestr ar suddo, ymlwybrodd ar y dec, ac O! yr olygfa a ddaeth o flaen ei lygaid - y tir yn y pellder a thonau cynddeiriog rhwng y llong suddedig ag ef. Ar gefn un dyn yr oedd haner dwsin o'r teithwyr, tra eraill yn cael eu hyrddio yn erbyn danedd y geulan, a phob un yn ymdrechu am fywyd.
Neidiodd y Cymro i'r mor ac ymaith ag ef goreu y medrai. Bu y tonau yn hynod dyner o hono; cododd un ef ar ei hysgwydd, a thaflodd ef i dir yn ddiogel. Yn fuan ar ôl hyny cafodd ei hun mewn ysbyty a darn chwe' modfedd a haner o'i goes wedi ei dori ymaith. Wedi treulio rhai blynyddau yn New Zealand, dychwelodd i Gymru a disgynodd ei goelbren yn Ffestiniog.
Ebrill 30, 1877, unodd mewn glan briodas ag Ann Humphreys, yn Salem, Rhiwbryfdir, ac yn 1883 daeth i'r wlad hon a sefydlodd gyda'i deulu yn Osage City, lle y bu hyd ei farwolaeth. Unodd â chrefydd yn yr Hen Wlad yn 1879, a bu yn ffyddlon gyda'i alwedigaeth ysbrydol hyd angeu.
Gadawodd wraig a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Bydded i dad yr amddifaid a phriod y gweddwon fod gyda hwynt, yw dymuniad eu cyfaill,
D. TODD JONES.