MRS.ELLEN JONES, CLEVELAND, LE SUEUR, MINNESOTA.
First wife of Rev. Richard G. Jones, was born at Llanegryn Merionethshire, Wales, August, 1807.Her father was Wm. Jones, Bodywyn. At the age of 26 she removed to Dyffryn, where she was united in marriage to Rev. Richard G. Jones, late of Le Sueur county.
She was a woman of fine Christian spirit, who walked worthy of her religious profession.
Hanes Cymry Minnesota, Foreston a Lime Springs, Iowa.
MRS.ELLEN JONES, CLEVELAND, LE SUEUR, MINNESOTA.
Chwefror 24ain, 1889, yn ardal y Coed Mawr, Swydd Le Sueur. Minnesota, yn 81 mlwydd a 6 mis oed, Ellen, anwyl briod y Parch. Richard G. Jones. Yr oedd yn enedigol o Llanegryn, Gogledd Cymru.Adwaenid ei thad wrth yr enw William Jones, Bodowyn; wedi hyny Clos Bach.
Yn 1841, yn uniongyrchol ar ôl eu huniad priodasol, ymtudasant i'r wlad hon, ac ymsefydlasant ger Racine, Wisconsin, wedi hyny yn Waukesha a Blue Mounds, ac yn ddiweddaf yn Coed Mawr.
Cafodd gystudd trwm, er nad o hir barhad. Sabboth, y 17eg, yr oedd yn y capel dair gwaith. Y bore Sabboth canlynol, ychydig cyn naw o'r gloch, dechreuodd, fel yr ydym yn credu,
"Gadw Sabboth uwch y nen
Na threulir mo'no byth i ben."
Dydd Mawrth, y 26ain, cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y tŷ ac yn nghapel Elim. Dodwyd y gweddillion i orphwys yn mynwent y capel, yn nghanol arwyddion cyffredinol o alar a hiraeth ar ei hol. Cafodd un o'r angladdau mwyaf lluosog, yn cael ei wneyd i fyny o'r ardalwyr yn gyffredinol o bob cenedl. Dygodd yr iau yn ei hieuenctid mewn undeb a'r T. C., a bu yn mhob cylch yn adduro i'w phroffes. Teimlir fod ei hymadawiad yn golled drom i'r eglwys yn Elim, ac i'r ardal a'r gymydogaeth, ond yn fwy felly i'w phlant a'i pherthynasau, ac i'w phriod yn anad neb. Yr hwn sydd yn dyddanu y rhai cystuddiedig a'u dyddano hwythau yn eu trallod a'u profedigaeth. Gweinyddwyd gan y Parchn. Griffith Roberts, Wm. M. Jones a Wm. A. Jones.