MRS. ELLEN JONES. RAYMOND, RACINE, WISCONSIN.

Chwefror 7fed, 1889, yn 78 mlwydd oed, Ellen, gweddw y diweddar Solomon Jones, Raymond, ger Racine, Wisconsin.

Yr oedd wedi bod yn gwaelu er's rhai misoedd, eto yn gallu myned o gwmpas. Cafodd fath o lewyg, a bu farw yn sydyn.

Ganwyd a magwyd hi mewn ffermdy o'r enw Llwynmafon, yn gyfagos i Porthmadog, Gogledd Cymru.

Priododd â Solomon Jones, o blwyf Llanbedr, Sir Feirionydd. Buont y preswylio yn mhlwyf Celynin, yn yr un sir; ac oddiyno symudasant i America tua phum mlynedd a deugain yn ôl, a sefydlasant yn nghyffiniau Racine.

Llwyddasant yn eu hamgylchiadau bydol, a daethant i feddiant o gryn lawer o dir. Y mae pump o blant wedi eu gadael yn amddifad, sef dau fab a thair merch.

Claddwyd hi ar y lOfed cyfisol, a chafodd gladdedigaeth luosog a pharchus.
T. LL. W.

Y Drych ~ Chwefror 21ain 1889.