MR. HENRY JONES. CHICAGO, ILLINOIS.
Chwefror 13eg, 1889, yn Chicago, Illinois, o'r parlys, Henry Jones, wedi dwy wythnos o gystudd trwm, yn ddwy flwydd a deugain oed, gan adael priod ac un mab, dau o frodyr ac un chwaer mewn dwfn alar a hiraeth mawr ar ei ôl.Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Henry Jones, o'r Cae Gwyn, Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru.
Priododd â Miss Sarah Roberts, Talybont, ger Pwllheli, 20 mlynedd yn ôl. Bu iddynt ddau o blant, merch a mab - claddwyd yr eneth fechan yn Nghymru.
Ymfudasant i'r wlad hon yn l885, lle yr oedd ei frawd Richard yn trigo er's llawer blwyddyn.
Er ei fod wedi cael dygiad i fyny crefyddol, ar dir gwrthgiliad yr oedd y brawd pan ddaeth i'r ddinas hon. Ond daeth i'r gyfeillach gyda'i briod un nos Fercher cyn hir wedi cyraedd yma gan gydnabod ei ffoledd yn cefnu ar dy ei Dad, a dymunodd cael ei dderbyn yn ôl fel gwas cyflog. Rhoddwyd iddo dderbyniad siriol a chynes. Teimlem yn falch iawn o'i bresenoldeb yn y moddion pan fyddai gyda ni. Yr oedd yn wrandawr o'r fath hawddgaraf, yn gadarn yn yr ysgrythyrau, a help rhagorol yn yr ysgol Sabbothol, o'r hon yr oedd yn hoff iawn. Mewn gweddi yr oedd yn deimladwy a gafaelgar. Y golled iddo ef a ninau oedd, mai anaml y caem ei gwmni o herwydd fod ei waith yn ei gadw ef, fel llawer eraill, o'r addoliad hyd yn nod ar ddydd Duw. Gofidiai yn fawr am hyny, a chwynai am hyny wrth un o'n diaconiaid ryw haner awr cyn i'w enald ebedeg at Dduw, yr hwn a'i rhoes.
Yr oedd ei frodyr, Richard a William, a'i chwaer, Mrs. Edwards, yn ei arwyl. Mae y pedwar teulu wedi cael profedigaethau chwerwon yn olynol yn ddiweddar - tan ar ôl tan yn golchl trostynt, gan gymeryd rhyw un anwyl o'u mynwesau. Bu rhieni duwiol, eu brawd John yn Ffestiniog ond tua dau fis yn ôl, ac yn awr Henry Jones wedi eu dylyn i'r daith o'r hon ni ddychwelir.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus Chwefror I5fed, yn Graceland Cemetery. Wedi gwasanaeth byr yn y tŷ aed yr orymdaith i gapal y T. C., oherwydd ei fod yn helaethach a mwy cyfleus i angladdau na'r capel yr oedd yr ymadawedig yn aelod o hono. Daeth cynulleidfa fawr yn nghyd. Dygwyd y gwasanaeth yn mlaen gan y brodyr Williams, Humboldt Park, Dr. Harries a'r ysgrifenydd, Drwg iawn genym, yn wir, fod iechyd ei anwyl briod, sydd wedi ei gadael yn weddw mewn gwlad estronol, yu bur wael. Gobeithiwn y cryfha yn fuan, ac y gall fwrw ei holl ofal a'i phryder ar Dad yr amddifad a Barnwr y weddw.
G. GRIFFITHS.