MRS. JANE JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Gorphenaf 23ain, 1889, Mrs. Jane Jones, priod Ebenezer Jones, Middle Granville. New York, yn 64 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o'r Llys, plwyf Llanddeiniolen, Arfon. Enw ei rhieni oedd John a Margaret Williams.

Ymfudodd i'r wlad hon tua 56 o flynyddau yn ôl, a bu yn aros yn Slatington, Pennsylvania., gyda'i brawd Thomas a'i brawd John, yr hwn oedd yn preswylio yn Bangor, Pennsylvania. Symndodd oddiyno i Middle Granville, ac yn fuan wedi hyny priododd. Mae ei phriod, yr hwn sydd wedi ei adael i alaru ar ei hol, yn fab i'r diweddar Barch. Morris Jones, "Yr Hen Broffwyd."

Bu iddynt bedwar o blant, tri o'r rhai sydd yn byw yn Middle Granville, sef Mrs. John Roberts, Mrs. Robert Lewis a Mr. Thomas Williams, y rhai fuont dyner iawn a gofalus o honi yn ei hafiechyd blin. Bu eu hunig fab farw dair blynedd yn ôl, yr hyn yn ddiau fu yn achlysur i brysuro ei diwedd hithau. Ei hafiechyd diweddaf ydoedd y dropsy. Nid ydym yn meddwl i ni weled neb erioed yn fwy tawel mewn cystudd, a hwnw yn un hynod boenus, byth yn cwyno iddi ei hun, ond i rai eraill yn wastad. Nid oedd yn addef o gwbl ei bod yn myned i farw; meddwl gwella yn barhaus. Yr oedd o gymeriad tawel a heddychlawn. Priodol iawn yw y geiriau hyny i ddangos ei chymeriad, "Heb absenu a'i thafod, heb wneuthur drwg i'w chymvdog. ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei chymydog."

Gan hyny, colled i ardal yw colli oymeriad o'r fath. Yr oedd yn aelod fyddlon o'r eglwys hon, ac i raddau yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Llawer gwaith y clywsom hi yn ateb mewn cyfarfod ysgolion flynyddau yn ôl; ond erbyn hyn mae hi wedi tewi. Er hyny coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig, Bydded i'r brofedigaeth fod yn foddlon i ddwyn y merched i adnabod Duw eu mam, ac ymddiried ynddo. Bu dwy ferch Mr. Jones o'i wraig gyntaf, sef Mrs. Phebe Draffin, Scamiste, Mass., a Mrs. John O. Williams, Columbus, Ohio, yn hynod garedig, a daetbant yma i weini arni.

Cymorth gaffo Mr. Jones yn ei henaint i godi ei olygon i fyny, ac ymddiried yn Nuw. Cafodd angladd lluosog ac anrhydeddus. Gwasanaethwyd gan y Parch. E. Roberts.

Y Drych ~ Awst 8fed 1889.