MR. OWEN W. JONES. BLAEN Y CAE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Yn ardal Blaenycae, Wisconsin, Mehefin 17eg, 1889, bu farw Mr. Owen W. Jones, a chladdwyd ef ar y 19eg o'r un mis yn mynwent Engedi, ardal Blaenycae.

Mab ydoedd Owen W. Jones i John Jones, Tynygraig, ardal Betws Gwerfil Goch, gerllaw Corwen, Cymru.

Yr oeddym yn ei adnabod ef er pan oedd yn fachgen ieuanc. Symudodd i'r America yn y flwyddyn 1851. Bu ef a brawd iddo yn Ohio am oddeutu dwy flynedd, ond trwy i'w frawd gyfarfod a damwain a fu yn angeu iddo, symudodd ein cyfaill i Wisconsin, i sefydliad y Cymry ger Oshkosh.

Yno, yn mhen amser, priododd gydag Ann Davies, merch Daniel a Margaret Davies o'r ardal a nodwyd. Y mae iddynt bedwar o blant yn fyw. Bu ein brawd yn aelod a diacon gyda'r Annibynwyr am rai blynyddoedd, ond yn mhen amser cyfododd ei lythyr oddiwrth y brodyr hyny mewn tangnefedd, ac ymunodd a'r Trefnyddion Calfìnaidd yn Bethesda, ger Oshkosh. a bu yn ddiacon yno am y gweddill o'i dymor yn yr ardal.

Gweddus yw i ni hysbysu, er iddo ymadael a'r Annibynwyr, y bu teimlad brawdol rhyngddo a'r cyfeillion hyny tra y bu byw, ac yr oedd presenoldeb amryw o honynt yn ei angladd yn brawf o'r gwirionedd.

Yn y flwyddyn 1876 symudodd i ardal Lake Emily, ac yn 1883 symudodd i ardal Blaenycae, trwy brynu ffarm dda yno. Am ei gymeriad fel Cristion a swyddog eglwysig gadawaf i'm brawd, y Parch. John R. Daniel, ddweyd ei syniadau am dano. Dyma fel y dywed ef am dano: "Trwy brynu ffarm dda yn y gymydogaeth daeth yn gymydog am y terfyn a mi, a theimlwn yn enill i gael Mr. Jones yn gymydog. Cefais ef yn un o'r dynion cywiraf a mwyaf cymwynasgar fel cymydog; taflai ei hun dipyn o'r ffordd i wneyd cymwynas. Yr oedd yn ddyn y medrwn ymddiried ynddo; cawn ef y tro nesaf yn y fan y gadawn ef heddyw. Yr oedd Mr. Jones yn weithiwr diymarbed gyda'r byd a chrefydd. Gyda'r byd tynai allan gynlluniau, a gweithiai hwy allan yn llwyddianus, fel y deuent iddo yn ffynonellau cyfoeth.

Yr oedd yn ddyn cynil a darbodus. Gallwn gymwyso ato yn briodol eiriau y Psalm, 'Gwr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg; wrth farn y llywodraetha efe ei achosion; golud a chyfoeth fydd yn eiddo ef.' Gyda chrefydd nid oedd yn llai effro. Yr oedd yn un o'r gwrandawyr goreu - neb yn fwy ffyddlon yn mhob moddion o ras nag efe a'i deulu. Meddai fawr ofal calon am yr achos yn ei holl ranau. Daeth i Blaenycae o Lake Emily fel diacon eglwysig, ond bu yr eglwys am dymor heb ei alw i wasanaethu y swydd, ond yr oedd ef yr un mor ofalus am yr achos ag y bu wedi iddo gael ei alw. Nid swydd a'i cymhellai i weithio, ond cariad at yr achos yn ddiameu.

Ni welais ef erioed yn nacâu gwneyd unrhyw beth y gelwid arno i'w wneyd. Dywedais pan oedd ef yn glaf, pan yn ofni mai ei golli a wnaem, os oedd yr eglwys yn myned i golli Mr. Jones, y cai y golled fwyaf a allasai gael trwy golli un o'i haelodau. Yr oedd yn siaradwr da ar unrhyw fater; ond nid siaradwr yn unig oedd, ond gweithiwr yn mhob cylch. Gofalai am bethau bychain amgylchiadol y gwaith; chwilio am fylchau yr achos a'u codi. Yr oeddwn wedi sylwi fod tôn hyderus yn ei brofiad er ys tro. Son am wella yr oedd yn ei glefyd. Ni fynai neb wasgu ato fod yn ofnus mai ein gadael yr oedd er pob gofal, ac felly ni ddywedodd fawr o'i deimlad yn ei ddyddiau olaf.

Yr oedd ein brawd, fel ei dad, yn ddyn tawel, egwyddorol yn y Beibl, gonest yn ei drafodaeth fydol, diwyd gyda y ddau fyd, a thyner iawn yn ei deulu. Dygodd ei blant oll i fyny yn yr eglwys. Ac nid yw yn un blotyn ar ei gymeriad i ni ddweyd ei fod yn ddirwestwr da, ac yn waharddwr o egwyddor. Gwir na ddywedodd lawer yn ei gystudd. Nid oedd cymaint pwys yn hyny, oblegid yn ein bywyd yr ydym yn dweyd beth ydym. Yr Arglwydd fyddo yn nodded i'w weddw alarus a'i blant amddifad. Caniataer i ni roddi yr englyn canlynol a dderbynias oddiwrth ei dad yn nglyn a'i gofiant. Os wyf yn cofio yn iawn, yr wyf yn meddwl mai Eben Fardd a'i cyfansoddodd:

"Af o allu fy nghyfeillion, - pallant
Ddim pellach na'r afon;
Ond Iesu ni âd ei weision,
Pen yw a'i deil pan yn y don."
Thomas Foulkes.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1889.