MRS. LAURA JONES. SPRINVALE, COLUMBIA, WISCONSIN.

Mawrth 20fed, 1889, bu farw Mrs. Laura Jones yn nhy ei merch, Mrs. H. J. Rowlands, Welsh Prairie, Wisconsin, yn 85 mlwydd oed.

Merch ydoedd i David a Margaret Price, Bronyfoel, Celynin, Meirionydd. Yr oedd yn ieuengaf o ddeg o blant, o ba rai yr erys yn unig David Price, Proscairon.

Ymbriododd a John W. Jones, Bodgadfan, yn 1830, ac ymfudasant i'r Unol Dalaethau yn 1851, gan ymgartref yn mhlwyf Randolph, Wisconsin. Bu iddynt naw o blant; claddwyd dau yn yr Hen Wlad, a dwy yn Wisconsin; ac yn fyw mae un mab a phedair merch, oll mewn hiraeth a galar dwys am na chant weled el hwyneb yma mwy.

Claddwyd hi yn mynwent Cambria, yn ngwydd tyrfa luosog a pharchus, ar yr 22ain. Gweinyddwyd gan y Parchn. David R. Jones, John R. Daniel, a J. H., a phregethodd y diweddaf bregeth angladdol iddi yn Jerusalem, Ebrill 7fed, oddiar Ps. xxvi. 8; cxix. 97.

Dyna geryg milldiroedd y daith trwy yr anialwch, y symudiadau gweledig ar ddeial amser. Rhoddir lle mawr i'r cyfryw yn llyfrau a chofnodion y ddaear, ond o'r braidd y crybwyllir hwy yn llyfr coffadwriaeth yr Arglwydd. Nid symudiadau lleol geir ynddo, ond dadblygiad cymeriad; nid cyfnewidiadau amser, ond rhodio mewn newydddeb buchedd. Yr hyn a wna ei choffadwriaeth yn fendigedig yw, ein hyder fod gan Dduw lawer o'i hanes yn llyfr y Bywyd, fel un yn meddwl am ei enw Ef. Mae lle i gredu i'w henw gael el registro ynddo pan oedd hi yn 14 oed, a chadwodd ei dalen yn lan heb ddim ystaeniau hyllion tra y bu byw. Yr oedd ei phriod yn ddiacon gweithgar gyda'r Wesleyaid, a hithau o'i mebyd i'w bedd yn perthyn i'r T. C.; ond yr oedd perffaith cydgordiad rhyngddynt mewn profiad a bywyd crefyddol.

Bu Parch. W.R.Jones.Hastings, Nebraska yn weinidog ar gylchdalth Cambria yn 1856-60, a sylwa am dani, "Yr oedd yn Fethodist egwyddorol, ond nid yn sectol, canys yr oedd ganddi y parch mwyaf digymysg i enwadau eraill, ac nid oedd dim yn ormod ganddi wneyd i'r gweinidogion Wesleyaidd a fynychent ei chartref mor aml.

Bu fy mam farw cyn i mi ei gweled; ond ar ol ei cholli, ni welais yn fy mywyd yr un ag y teimlwn ei galw yn fam yn gyffelyb i'r hen fam o Ty'n-y-coed. Yr oedd yn grefyddol bron wrth naturiaeth. Yr oedd gras Duw wedi cyfnewid ei natur mor drylwyr fel yr oedd yn caru Duw yn fwy na phobpeth. Yr oedd ei chydwybod yn dyner a'i deall yn gryf, wedi ei ddiwyllio gan Air Duw, ac felly yr oedd ei bywyd yn gysegredig a sanctaidd i'r Arglwydd. Yr oedd ei ffydd yn gref, fel y gallai esgyn i ben Pisgah, fel Moses, ac edrych dros yr afon i'r wlad dda, a gweled y Brenin yn ei ogoniant."

Y Parch. J. K. Daniel fedr ysgrifenu oreu am dani yn nghanol-ddydd ei heinioes, a sylwa: 'Bu Mrs. J. yn aelod yn fy eglwys am dymor goreu ei bywyd - tymor mwyaf gweithgar ei hoes, pan yn nghanol trafferthion meithrin plant. Prawf goreu crefydd yw addfedrwydd bywyd. Blodau yw tymor ieuenctyd, egwyl ar ol cynhauaf yw henaint, ond am ganol oed, dyna gynhauaf einioes. Cefais y fantais oreu i adnabod ei chymeriad yn adeg ffrwythlonaf ac addfetaf ei hoes. O ran diwylliad a phrofiad crefyddol, yr oedd uwchlaw y cyffredin o wragedd. Bu cyfarfodydd gweddi gan y chwiorydd yn yr eglwys am dymor, a hi fyddai yn arwain ynddynt. Cyflawnai swydd diacones - swydd ddylasai barhau yn yr eglwys, yn ol y drefn apostolaidd, hyd heddyw; dirywiad, yn ddiau, ydyw ei bod yn colli o'n heglwysi. Hi ddylynai gynulliadau yr eglwys yn bur ddifwlch, a hawdd deall ei bod yn mwynhau cyfiawnder bendith efengyl y tangnefedd.

Ychydig a feddyliai hi, efallai, fod ei gwrandawiad awgrymiadol yn gymaint o gymorth i mi i bregethu. Mae yn rhywbeth i bregethwr wybod fod ei weinidogaeth yn 'gymeradwy gan y saint.' Gwnai ei goreu i gynal breichiau y gweinidog, yn neillduol pan fyddai mwyaf o eisieu cymorth. Cofiwyf am seiat nad oedd dim un o'r brodyr yn bresenol. Anghofia y bobl gynhauaf Mab Duw yn aml yn eu cynhauaf eu hunain. Yr oedd y chwiorydd yn bur gyflawn yn y seiat hono. Wedi dechreu y cyfarfod fy hun, teimlwn yu ddrwg orfod diweddu; gofynais i Mrs. Jones ddiweddu y seiat, a gwnaeth gyda yr aŵgrym. Y fath sirioideb i fy nheimlad. ' Ni chaiff yr achos fynd i lawr,' meddwn, mae y chwiorydd am daflu eu hysgwyddau dano.'

Dygwyddodd amgylchiad gwerth ei gofnodi yn niwygiad 1860. Pregethai y Parch R. L. Herbert yn ddoniol a hwyliog ar y testyn, 'Oni lanhawyd y deg, ond pa le y mae y naw?' Ar y diwedd, dechreuodd Mrs. Jones 'roddi y gogoniant i Dduw' mewn hwyl fendigedlg, nes teimlai pawb fod y nefoedd yn foddlon i'w haberth diolch. Daeth y pregethwr i lawr o'r pwlpud i'w pherswadio i dewi, ond gwnai hyny iddi foli mwy o lawer. Yna cafodd afael ar yr hen adnod ogoneddus, 'A minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i. Fy Nhad i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb; ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.' Yr oedd y pregethwr wedi creu profiad ynddi nad oedd ei enwad ef yn credu ynddo; cyneuodd dan parhad mewn gras nad allai ef ei hun ei ddiffodd.

Medrai Mrs. Jones ddweyd gair yn ei amser pan fyddal eisiau. Yn lled foreu yn hanes yr eglwys, daeth yr ymwelwyr yno, a gofynent y cwestiwn, A oedd y ddysgyblaeth ar ei thraed? Apeliodd y brodyr dyeithr at yr aelodau. Cwynai un fod y swyddogion yn rhy lac gyda y ddysgyblaeth. Daeth y cwestiwn yn ei gylch at ein chwaer, a'i hateb oedd, nad oedd hi yn gallu beio y swyddogion, ond ei bod yn synu fod y rhai a dybiai hi ddylasent fod dan y wialen y rhai cyntaf i feio y swyddogion.

Yn hwyr-ddydd ei bywyd, parhai ei zel am foddion gras yn ddileihad. Gwnai y fath ymdrech nes peri i'w chyfeillion betruso weithiau am y canlyniadau iddi yn ei gwendid. Ond bu yn ffyddlon hyd angeu yn ngwir ystyr y gair, a chafodd fod yn y seiat, a dwyn tystlolaeth dros ei Cheidwad, bymthefnos cyn marw. Ychydig cyn hyny, fe'i rhwystrwyd i'r seiat gan afiechyd am oddeutu mis, ac ofnai fod hyny yn ddigon o achos i'w diaelodi. Gwyn fyd na cheid cydwybodau myrdd mor dyner yn y ddyledswydd hon. Nid yw blwyddyn o seiadau yn ddim gan ambell un eu colli; a phan elwir eu sylw at yr esgeulusdra, nid ofni am eu haelodaeth a wnant, ond brochi a digio. Un o'i chyngorion diweddaf hi i'w hanwyliaid ydoedd, 'Yr ydych wedi colli llawer o foddion i dendio arnaf fi; cofiwch beidio esgeuluso dim byth.' Dangosodd yn amlwg ei bod yn brofiadol o awyddfryd angerddol y Salmydd, 'Fy enaid a hiraetha; ie, ac a flysia, am gynteddau yr Arglwydd; fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.'

Mae yn gysur i bawb a'i hadwaenai, ac yn arbenig i'w phlant, fod yr ofn marw a'i blinai yn ei chystudd wedi ei symud cyn yr ymddatodiad. Cafodd seibiant yn ei phoenau y dydd Llun diweddaf o'i bywyd i dystiolaethu fod y ty ar y Graig, ac yn dal yn merw y llif. Ceisiodd y gelyn ddyfod i mewn fel afon, ond Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlidiodd ymaith. Daeth awel bêr o Wynfa wiw, a chwalodd y cymylau, diflanodd y niwl, ac ehedodd hithau i fwynhau heulwen ddigwmwl y tragywyddol ddydd.

Heddwch i'w llwch; dyddanwch i'r teulu yn eu trallod, a gras i fod yn ddylynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd a etifeddant yr addewidion."
J. Hammond.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1889.