MRS. MARGARET H. JONES. PICATONICA, WISCONSIN.
Yn Picatonica, Wisconsin, Mrs. Margaret H. Jones , Mawrth 27ain, l889, yn 82 mlwydd oed. Eawau ei rhieni oeddynt William a Graca Edwards, o bentref 'Rachub, yn mhlwyf Llanllechid, yn Arfon, Gogledd Cymru.Yr oedd yn chwaer i'r diweddar Barch. Edward Williams, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn Picatonica yr un amser a'r enwog Barch. John Davies. Ceir sylw parchus iawn o hono yn nghofiant Mr. Davies.
Bu Mrs. Jones yn briod ddwy waith. Priododd y tro cyntaf ac un William Jones, ac ymfudasaut i'r wlad hon yn 1844. Bu iddynt dri o blant, dau o ba rai sydd yn fyw, sef Mary a Griffith yr hwn sydd yn byw yn bresenol yn Nhalaeth Oregon.
Bu farw William Jones yn 1851. Ac yn 1853, priododd a Thomas H. Jones, yr hwn a fu farw yn sydyn o'r parlys, Rhagfyr 14, 1886. Yr oedd ef yn gymeriad pur hynod fel siaradwr, darllenwr a gweddiwr doniol iawn.
Dynes wanaidd iawn ei hiechyd ydoedd hi er ys llawer o flynyddoedd. Y flwyddyn ddiweddaf o'i hoes cyfarfyddodd â damwain trwy syrthio ar y llawr a thori ei chlun. Ond er ei bod yn wan ei chorph. yr oedd yn hynod fywiog ei hysbryd, gwrolfrydig ei meddwl, a ffraeth iawn ei thafod. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen y Beibl, ac yr oedd wedi trysori llawer o hono yn ei chof, a llawer o hymnau. Yr oedd yn un o deimladau cynes a brwdfrydig ei hysbryd, fel y byddai ar droion yn gorfoleddu yn y moddion, ac yn y teulu ar adegau. Pan dorodd ei chlun, gobeithiai y pryd hwnw gael myned i'r nefoedd yn union; ond siomwyd hi.
Y nos Saiwrn diweddaf y bu fyw, credai iddi weled yr Iesu a'r angylion yn dyfod i'w symyd i'r nefoedd. Ac yno, yn ddiameu, y mae ei chartref tragwyddol mwy. Yr oedd er yn ieuanc yn gyflawn aelod. Rhai o'i hoff emynau yn ei dyddiau olaf oeddynt:
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau,"
"'Rwy'n tynu tuag ochr y dw'r,
A byddai yn hoff iawn o ganu. Y mae Beibl Peter Wiliiame yn llawn o farciau ar ei hoff adnodau. Ac un o'r pethau diweddaf a wnaeth cyn marw oedd estyn ei Beibl i'w merch, Mrs. Morgans, gan ddweyd wrthi am ei gadw, a gwneyd yn fawr o hono; ac na byddai arni hi ddim o'i eisiau mwy. Cafodd bob gofal a thynerwch gan ei merch a'i phriod, J. Morgans.
Traddodwyd ei phregeth angladdol gan yr ysgrifenydd yn Peniel. Bydded i'w gweddiau a'i chyngorion gael eu cadw yn gysegredig gan ei phlant a'u hwyrion.
JOHN MOSES.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad.
MRS. MARGARET H. JONES. PICATONICA, WISCONSIN.
Mawrth 7fed, 1889, yn Picatonica. Wisconsin, yn 82 mlwydd a 7 mis oed, Mrs. Margaret Jones gweddw y diweddar Thomas H. Jones.Ganwyd hi yn mhlwyf Llanllechld, Sir Gaernarfon. Ei rhieni oeddynt William a Grace Edwards.
Ymfudodd hi i'r wlad hon 44 o flynyddoedd yn ôl. Gwraig grefyddol, dduwiol, ac hoff iawn o'i Beibl ydoedd. Yr oedd yn chwaer i'r diweddar Barch. Edward Williams, un o bregethwyr hynaf sefydliad Picatonica.
Cafodd gystudd maith, ond yr oedd yn un o'r mwyaf dyoddefgar a llawen ei hysbryd o neb a welsom erioed. Cafodd bob gofal a thynerweh oddiar law ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, John Morgaa a'i briod, ynghyd a'i hwyres, Miss Morgans.
Yr oedd yn barod i farw ac yn awyddus am fyned i'r nefoedd i gartrefu gyda'r Arglwydd, a chafodd ei dymuniad. Gweinyddwyd yu e chladdedigaeth yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parchn. H. Hughes a J. Moses.