MR. THOMAS ELLIS JONES. WEST PAWLET, VERMONT.
Mai 8fed, 1889, wedi tri diwrnod o gystudd trwm, Thomas Ellis Jones, West Pawlet, Vermont, yn 47 mlwydd oed.Daeth i'r wlad hon o Tanygrisiau, Ffestiniog, Gogledd Cymru, oddeutu saith mlynedd yn ôl. Yr oedd yn ddyn diwyd a gweithgar, yn gymydog tawel, yn briod serchog ac yn dad tyner. Yr oedd yn wrandawr cyson gyda y M. C.
Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parchn. Edward Roberts, Granville, New York, a Thomas M. Owen, West Pawlet.
Claddwyd ef dydd Gwener, Mai 10fed, yn y White Cemetery. Gadawodd briod a thri o blant ar ei ôl, dau o honynt yn y wlad hon ac un yn yr Hen Wlad.
Bu yn briod ddwy waith, a phlant o'r wralg gyntaf yw y rhai hyn. Bydded nodded y Nef dros y teulu galarus.
J. CYNFRIG JONES.