MR. WILLIAM T. JONES, UTICA, NEW YORK.

MR. WILLIAM T. JONES. Mai 31ain, 1889, yn Penmynydd, bu farw Mr. William T. Jones, Dwyros, yn 67 mlwydd oed. Ymfudodd ei rieni i'r wlad hon tua 58 mlynedd yn ol, o Dwyros, yn agos i Bwllheli, G. C, ac ymsefydlasant yn nghymydogaeth Penmynydd, ac yn y cylchoedd hyny y treuliodd ein cyfaill ymadawedig ei holl ddyddiau wedi croesi y Werydd. Y mae ei rieni, Thomas R. Jones a'i briod, wedi tawel huno yn yr angeu, mewn parch ac anrhydedd, er's llawer blwyddyn, a'u gweddillion marwol yn aros mewn dystawrwydd yn mynwent brydferth French Road.

Gadawodd luaws o gyfeillon a pherthynasau i alaru ar ei ôl, yn mhlith y rhai y mae ei frawd, G. T. Jones, Sixty, yn nghyd a dwy chwaer; ond sicr yw, mai y rhai a deimlant fwyaf a dwysaf yw ei hawddgar a'i ffyddlon briod, yn nghyd a'r bechgyn tyner a ymddiriedwyd gan Ragluniaeth Ior dan ei ofal; canys bu yn briod mwyn a charedig, ac yn dad gofalus a darbodus, fel y mae sefyllfa ei briod a'r meibion yn mhell uwchlaw angen.

Bu ein cyfaill yn aelod crefyddol yn French Road am flynyddau lawer, ond ymunodd a'r frawdoliaeth Annibynol yn Penmynydd, saith neu wyth mlynedd yn ôl, ac yno yr oedd yn aelod adeg ei farwolaeth.

Siaradant am dano fel un parod i gyfranu at gynal yr achos, a theimlant yn hiraethus ar ei ôl. Bu yn glaf a hynod fethedig y ddwy neu y tair blynedd olaf o'i fywyd, ond cafodd y gofalgarwch mwyaf gan ei anwyl briod a'r bechgyn. Y dydd Sadwrn canlynol daearwyd ei weddillion yn mynwent henafol Penymynydd, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Hugh R. Williams, Floyd, a J. Seth Jones, Remsen. Yr oedd y dyrfa a ddaeth yn nghyd dan y fath amgylchiadau, ac ar y fath ddiwrnod gwlawog, yn brawf diameuol y teimlid parch i'r ymadawedig yn mhell ac yn agos.

Y Wawr ~ Awst 1889.