MRS. MARGRARET E. LEWIS. BLUE ISLAND, COOK COUNTY, ILLINOIS.

Mai 19eg, 1889, yn 62 mlwydd oed, Mrs. Thomas Lewis, Blue Island, Cook County, Illinois, ar ôl cystudd poenus am rai wythnosau.

Ganwyd hi (Margaret B. Jones) yn Nanthir, ger y Bala, Meirionydd, Ebrill 14eg, 1827. Pan tua 16 mlwydd oed ymfudodd i Racine, Wisconsin, yn nghwmni ei chwaer Gwen, yr hon sydd byw yn y lle y awr, ac yn briod â Mr. Thomas. J. Evans. Cyraeddasant yno yn ngwanwyn 1842; ac arosodd Margaret yno am tua chwe blwyddyn, pryd y symudodd i Arlington Heights, yn agos i Chicago.

Yn fuan ymunodd trwy briodas â Mr. Lewis, a bu yr uniad yn ddedwydd a llwyddianus. Ganwyd iddynt ddeg o blant, naw o'r rhai sydd yn fyw. Daethant trwy ddiwydrwydd a gofal i feddiant o gyfiawader o dda y byd hwn. Ymunodd a phobl yr Arglwydd pan yn 17eg oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.

Yr oedd y dyrfa fawr a ddaeth yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi yn profi ei bod yn un anwyl gan y bobl.

Y Drych ~ Mehefin 20fed 1889.