MR. ROBERT LLOYD. WEST BANGOR, PEACH BOTTOM, PENNSYLVANIA.
Chwefror 1af, 1889, ar ôl cystudd maith am wyth mlynedd yn y darfodedigaeth, yn 62 mlwydd oed, Robert Lloyd. West Bangor, plwyf Peach Bottom, Pennsylvania.Brodor o Ffestiniog ydoedd, a mab i'r diweddar Robert Lloyd, Brynglas, ac yn ddiweddarach Conglywal.
Ymfudasai i'r wlad hon yn 1849, pan oddeutu 22 mlwydd oed, a gwnaeth ei gartref yn West Bangor.
Yn fuan priododd gyda Mrs. Ellen Jones, gynt o Ebenezer, Sir Gaernarfon, yr hon sydd eto yn fyw. Yn 1857 aeth i California, a bu yn gweithio yn y mwngloddiau aur am amryw flynyddau.
Bu unwaith yn ymweled â gwlad ei enedigaeth ar ôl ei gadael.
Mae iddo gylch eang o adnabyddion, cyfeillion a pherthynasau yn mysg y chwarelwyr. Yr oodd yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn West Bangor, a phob amser yn cymeryd dyddordeb mawr yn ei llwyddiant. Claddwyd ef y prydnawn Sabboth canlynol yn Slatevllle, pryd y daeth tyrfa fawr yn nghyd. Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parchn. Harris a Smith. Pregethwyd y brogeth angladdol nos Sabboth, pryd yr oedd y ddwy gynulleidfa fel arfer wedi dyfod yn nghyd.
Gadawodd yr ymadawedig briod a thri o blant ar ei ôl, sef Proff Robert Lloyd, Delta; Mrs. Ellen J. Richards, Berwick; a Mrs. Lizzie Hohenadel, Columbia. Nodded Duw drostynt.
JOHN CADWALADER.