MR. DAVID J. MORRIS. 48 MILLER STREET, UTICA, NEW YORK.
Mai 21ain, 1889, yn 82 mlwydd oed, David J. Morris, 48 Miller Street, Utica, New York, o'r lle y claddwyd ef dydd Iau.Genedigol ydoedd o Sir Feirionydd. Priododd 54 mlynedd yn ôl, a thua saith mlynedd yn ddiweddarach ymfudodd gyda'i deulu i'r wlad hon.
Saer coed ydoedd wrth ei gelfyddyd. Yr oedd yn Werinwr selog, a bu yn cynrychioli yr hen Seventh Ward ar Fwrdd yr Assessors am ddwy flynedd.
Gadawodd ar ei ôl chwech o blant: Walter J. Morris, o Albany; cyn-Supervisor E. D. Morris, Daniel T. Morris, George W. Morris a Mrs. Helen Thompson, o Utica, a Mrs. N. W. Palmer, o ddinas New York.