MR. GRIFFITH EVAN MORRIS, BANGOR, PENNSYLVANIA.
Medi 20fed, yn Bangor, Pennsylvania, cyfarfyddodd Griffith Evan Morrls, gwr ieuanc 21 oed, a'i ddiwedd mewn modd tra sydyn yn Chwarel North Bangor. Tra yn ymochel tân tarawyd ef gan falurion oddiwrth y twll, a lladdwyd ef bron yn y fan.Mab ydoedd yr ymadawedig i Mr. Evan Morris, Bryn Sisyllt, Llanllyfni, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon ddechreu y gwanwyn diweddaf ac yma yr ymsefydlodd. Yr oedd yn ŵr ieuanc a fawr hoffid gan ei gydnabod ar gyfrif ei ysbryd llednais, hynaws a thawel. Cafodd fagwraeth grefyddol gan ei deulu, a'i ddwyn i fyny yn eglwys Dduw o'i febyd. Yr oedd yn aelod yn eglwys y M. C. yn Llanllyfni, a throsglwyddwyd ef trwy docyn i ofal yr eglwys Fethodistaidd yn y lle hwn, a pharhaodd yn aelod ffyddlon o honi hyd ei farwolaeth. Meddai rai nodweddion crefyddol ac y byddai yn dda i ieuenctyd ein cenedl ei efelychu ynddynt:
1. Cadwai yn glir o leoedd, ac oddiwrth gwmniau amheus. Rhoddai ystyriaeth i gyngor Solomon, "Na fydd yn mysg y rhai sydd yn meddwl ar win;" ac eiddo Paul, "O herwydd paham, deuwch allan o'u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd."
2. Yr oedd yn nodedig o gyson yn mhob moddion o ras. Ni arferai esgeuluso ei gydgynulliad ei hun, ond gosodai ei galon ar addysg grefyddol, a'i glustiau ar eiriau gwybodaeth. Y nos flaenorol yr oedd yn nghwrdd gweddi y dynion ieuainc.
3 Er nad oedd wedi ymollwug i gymeryd rhan gyhoeddus yn y moddion, eto, gwnai ei hunan yn hynod o wasanaethgar mewn ffyrdd eraill, megys gofalu am y goleu, a.y. Ac y mae pob un a wna y gwaith hwn a'i gyffelyb yn llawen a siriol yn llanw lle pwysig yn ngwasanaeth yr Arglwydd - mwy felly nac y cred rhai ei fod.
Dydd Llun, y 23ain, daeth nifer fawr o'i gyd-genedl i dalu eu cymwynas olaf iddo. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai lluosocaf a mwyaf trefnus a welwyd yma erioed. Trefn yr orymdaith oedd : y gweinidogion yn gyntaf, yna yr elorgerbyd, pole bearers, yna y merched bob yn dair a'r meibion bob yn dri. Yr oedd y capel o dan ei fourning yn arwydd o'n galar dwfa ar ôl yr ymadawedig, a'r arch wedi ei oruddio a blodau yn arwydd o'n parch dwfn tuag ato, ac o'n syniad uchel am ei gymerlad dilychwin, a'i grefydd bur. Canodd y cor, yn mhlith pethau eraill, yr anthem orfoleddus, "Y cyfiawn a drig yn y nef."
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Williams (A.), a'r ysgrifenydd. Nid gormod yw dweyd gael o'r gwr ieuanc hwn, er yn mhell o'i wlad, ac oddiwrth ei berthynasau, angladd tywysogaidd. Ac nid yn aml y gwelir tyrfa mor fawr yn arddangos yn gyffredinol deimladau mor ddwys. Dymuna ein heglwys ddatgan ei chydymdeimlad llwyraf a pherthynasau yr ymadawedig yn Nghymru, a'n gweddi ydyw am i Dduw pob gras eu nherthu I ddal y brofedigaeth lem.
R. E. WILLIAMS.