MRS. JENNETT ROBERTS, QUINCY, MASSACHUSETTS.

Yn Quincy Massachusetts, Medi 30ain, 1847, Mrs Jennett Roberts gwraig, Mr John Roberts Morfa, plwyf Reisen swydd Oneida Caerefrog Newydd, yn 32 mlwydd oed.

Merch ydoedd y wraig ieuanc hon i William a Sibil Hughes o Felin Trygarn plwyf Bryncroes, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd ei gwr a hithau i Quincy yn nechreu yr haf diweddaf. Aeth hi yn glaf o'r dwymyn geriaidd bilious fever. Parhaodd ei chlefyd dros 6 wythnos pan y bu farw ar y dydd a nodwyd uchod.

Tranoeth hebryngwyd ei rhan farwol gan y Cymry i gladdfa Quincy i orphwys hyd foreu caniad yr udgorn diweddaf. Darllenodd a gweddiodd Mr Robert Moses cyn cychwyn tua'r gladdfa.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1847.