MRS. ELLEN OWENS. BLAENYCAE, RANDOLPH COUNTY, WISCONSIN.
Rhagfyr 16eg, 1889, yn 64 mlwydd oed, yn Blaenycae, plwyf Randolph, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, Mrs. Ellen Owens, priod Mr. Samuel G. Owens. Cafodd gystudd maith a chaled, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach, yr hyn hefyd a nodweddai ei bywyd.Merch ydoedd i William ac Ann Williams, Penrhiw, Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd ymruC. Bu y tad farw pan oedd hi yn lled ieuanc. Priododd ei mam ailwaith ag un John Jones, Brynllan, o'r un plwyf. Symudasant wedi hyny yn deulu lluosog i Wisconsin yn 1845, ac yn 1848 ymbriododd a Samuel G. Owens.
Ganwyd iddynt luaws mawr o blant, o'r rhai y mae rhan helaeth wedi ei rhagflaenu, ac y mae saith eto wedi eu gadael gyda'i phriod i alaru ar ôl eu mam ofalus.
Yr ail ddydd canlynol i'w marwolaeth ymgasglodd torf luosog o berthynasau a chyfeillion i hebrwng ei gweddillion i fynwent yr ardal, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. John R. Daniel a David R. Jones.
CYMYDOG.