MR. GRIFFITH OWENS. LIME SPRING, IOWA.
Awst 9fed, 1889, yn 86 mlwydd ac ychydig fisoedd oed, Griffith Owens, Lime Spring, Iowa.Blinid ef er's blynyddoedd gan y ddafad wyllt ar ei wefus isaf, a dyma roes derfyn ar ei fywyd.
Brodor ydoedd o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Bwlch yr Ysgol. plwyf Llanaber. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol gyda'r M. C., yn nghapel y Bont Ddu, rhwng Dolgellau ac Abermaw. Symudodd pan yn ieuanc i'r Dyffryn, yno y priododd; ac oddiyno y symudodd gyda'i deulu i'r wlad hon yn Ebrill, 1842. Utica oedd prif gyrchfan y Cymry y pryd hwnw; felly yntau, wedi cyraedd yma, sefydlodd yn Smith Hill, Deerfield. Yn mhen y flwyddyn symudodd i Wisconsin, a bu fyw yn Racine a'r amgylchoedd am lawer o flynyddoedd, a 24 mlynedd yn ôl symudodd i'r ardal hon, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol.
Yr oedd Mr. Owens yn ddyn diwyd a llafurus gyda'r byd hwn, a bendithiodd yr Arglwydd ei lafur; felly hefyd gyda chrefydd, yr oedd yn hynod yn ei ffyddlondeb gyda moddion gras a'i ddyledswyddau crefyddol. Mawr oedd ei barch i ddydd yr Arglwydd a'i ofal am ei santeiddio. Yr oedd wedi gorcbymyn i'w deulu pa bryd bynag y byddai farw na chladdent ef ar y Sabboth. Yr oedd ei glyw wedi ei anmharu i raddau mawr er's llawer o flynyddoedd. Yr oedd hyn yn anfantais fawr iddo gynyddu mewn Duwloldeb a mwynhau cysuron crefydd; ond er yr anfanteision hyn yr oedd wedi dyfod i wybod ei fod wedi cael gafael yn y bywyd tragywyddol, a bu farw yn y goleu, a'i lygaid yn gweled cyrau y wlad yn ei gogoniant a'r Brenin yn ei degwch.
Dydd Sadwrn daeth lluaws yn nghyd i anfon yr hyn oedd ddaearol o hono i gladdfa Foreston i orphwys wrth ochr ei anwyl briod, yr hon oedd wedi ei ragflaenu er's 13 mlynedd, hyd ganiad yr udgorn.
Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. D. R. Griffiths, a'r ysgrifenydd, a phregeth angladdol iddo y Sabboth canlynol.
RICHARD ISAAC.
Y Drych ~ Hydref 31ain 1889.
MR. GRIFFITH OWENS. LIME SPRING, IOWA.
Yn ardal Lime Sprlng, Swydd Howard, Iowa, yn nhy ei ferch, Mrs. Roberts, Awst 9fed, 1889, bu farw Mr. Griffith Owens. yn 86 mlwydd ac ychydig fisoedd oed. Yr oedd yn cael ei flino erys blynyddoedd gan y ddafaden wyllt ar ei wefus isaf, a dyna roes derfyn ar ei fywyd. Dyoddefodd boenau mawrion oddiwrth ei afiechyd, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddaf, ond yn hollol ddystaw a dirwgnach, gan ymostwng i ewyllys yr Arglwydd. Teimlai fod pob peth yn cydweithio erdaioni i'r rhai sydd yn caru Duw.Brodor ydoedd o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Bwlch-yr-ysgol, plwyf Llanaber. Cafodd ddygiad crefyddol i fyny gyda'r M. C. yn nghapel y Bontddu, rhwng Dolgellau a'r Abermaw. Symudodd o'i ardal enedigol yn ddyn ieuanc i'r Dyffryn i fyw. Yma y sefydlodd yn y byd, ac yn yr ardal y bu yn preswylio am lawer o flynyddoedd, ac oddiyno y symudodd gyda'i deulu i'r wlad hon, yr hyn a gymerodd le yn mis Ebrill, 1842. Utica oedd prif gyrchfan y Cymry y pryd hwnw. Felly yntau, wedi mordaith lled faith ac ystormllyd a gyrhaeddodd yma, a sefydlodd yn Smith Hill, Deerfield.
Yn mhen y flwyddyn symudodd i Wisconsin, a bu'n preswylio yn Racine, Indian Island a Rock Hlll am lawer o flynyddoedd; a 24 mlynedd yn ol, symudodd i'r ardal hon, ac yma y gorphenodd eí yrfa ddaearol.
Yr oedd Mr. Owens yn ddyn diwyd a llafurus gyda'r ddau fyd, a bu yu ffyddlon, yn ol ei allu, hyd angeu. Cyfarfu yntau a gorthrymderau a phrofedigaethau, ond glynodd yn ddifwlch yn ei brophes hyd y diwedd. Yr oedd ei glyw wedi ei anmharu yn fawr er ys blynyddoedd, fel nad oedd yn clywed nemawr ddim; rhwng y ddau - natur ei afiechyd a'i glyw - nid oedd yn gallu ymarfer a dyledswyddau crefydd yn gyhoeddus er ys blynyddoedd. Ond bu yn ffyddlon i ddyfod i foddion gras hyd y gallodd er nad oedd yn gallu clywed. Crefydd hen ffasiwn oedd crefydd yr hen frawd, a chrefyddwr hen ffasiwn oedd yntau.
Yr oedd ganddo barch mawr i ddydd yr Arglwydd, a gofal neillduol am ei sancteiddio. Yr oedd wedi gorchymyn i'w deulu, pa bryd bynag y byddai efe farw, na chladdent ef ar y Sabboth. Er ei holl anfanteision i gynyddu mewn duwioldeb, a mwynhau cysuron yr efengyl, yr oedd yn gwybod er ys talwm ei fod wedi cael gafael yn y bywyd tragwyddol, a bu farw yn y goleu, a'i lygaid yn gweled cyrau y wlad yn ei gogoniant, a'r Brenin yn ei degwch, nes llenwi ei enaid a gorfoledd yr iachawdwriaeth.
Dydd Sadwrn, daeth lluaws o'i gydnabod yn nghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol o hono i gladdfa Foreston, i orphwys wrth ochr ei anwyl briod, yr hon oedd wedi ei ragflaenu er ys tair blynedd ar ddeg. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y ty ac wrth y bedd gan y parch. D. B. Griffiths, Abergele, Cymru, a'r ysgrifenydd, a phregeth angladdol iddo yr ail Sabboth.
Heddwch i'w lwch.