MRS. JANE OWENS. PETERBORO, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 27ain, 1889, yn agos i Peterboro, swydd Madison, New York., Mrs. Jane Owens, priod William Owens, yn 52 mlwydd a 2 fis oed.Cafodd gystudd maith a phoenus. Bu dan ofal y meddygon goreu am yn agos i flwyddyn, ac heb godi o'i gwely am yr wyth mis diweddaf. Dywedent oll mai y cancer mewnol oedd ei hafiechyd. Dyoddefodd ei chystudd maith yn hynod o amyneddgar a siriol. Yr oedd yn hollol hyderus ei bod yn myned i'r wlad well. Yr oedd wedi trysori Gair Duw yn helaeth yn ei chof er pan yn ieuanc, ac yr oedd ei addewidion a'i gysuron yn gymorth mawr iddi i fod yn dawel.
Magwyd hi ar aelwyd grefyddol. Merch ydoedd i'r hen bererin Harri Prichard, Didfa. Llanrug, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yr hwn oedd yn nodedig o selog a ffyddlon gyda chrefydd. Yr oedd gan Mrs. Owens ei hun feddwl mawr am ei thad fel crefyddwr, ac am yr hen weinidogion Wesleyaid yn gyffredinol, a byddai yn aml yn ei chystudd trwm bron a myned i hwyl gorfoledd wrth son am eu hymddyddanion pan yn nhy ei thad. Mae yn ddiogel genym ei bod hi yn awr yn eu cymdeithas, ac yn nghymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, lle na ddywed neb claf ydwyf.
Daeth i'r wlad hon pan yn eneth ieuanc tua 16 mlwydd oed, yn ngofal yr Hybarch Erasmus W. Jones, Utica, ac yr oedd ei theimiad yn gynes iawn tuag ato ef tra fu byw. Ar ôl dyfod i Utica y gwnaeth broffes gyhoeddus o Grist, pryd y derbyniwyd hi yn aelod gyda y M. C. Ar ôl symud i Madison ymunodd a'r un enwad crefyddol, a bu yn ffyddlon aelod o'i phroffes yn ddi-fwlch hyd y diwedd.
Dydd Sadwrn, Mehefin 29ain, hebryngwyd ei chorff gan dyrfa hynod o luosog i fynwent brydferth Morrisville, lle y gorwedd rhai o'i phlant er's blynyddau. Gweinyddwyd yn y claddedlgaeth gan ei gweinidog, y Parch. Benjamin Davis, Nelson, a chan y Parch. Mr. Harris, o Peterboro, a Mr. Marlin Lyon, o Nelson.