MRS. JANE OWENS. NEWARK, OHIO.
Mai 27ain, 1889, yn ei hen gartref, tua dwy filltir i'r gogledd o Newark, Ohio, Mrs. Jane Owens, gweddw y diweddar ddiacon David Owens.Dydd Mercher, y 29ain, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o'n hanwyl fam gan dyrfa fawr o'i hen gydnabyddion i Cedar Hill Cemetery, a gosodwyd hi i orphwys wrth ochr ei hanwyl briod, yr hwn a'i rhagflaenodd i'r orphwysfa nefol unarddeg o flynyddoedd, pan oedd yn 79 mlwydd oed. Gweinyddwyd ddydd yr angladd gan y Parch. J. G. Thomas, ei gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E. J. Jones, o'i Plymouth Congregational Church, a'r Parch. E. W. Brown (P)
Ganwyd Mrs. Jane Owens yn 1807, yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru. Unig blentyn ydoedd i Thomas a Catherine Jones, Bryndu. Pan oddeutu 16 oed ymunodd â chrefydd yn eglwys Annibynol Bethel, plwyf Llanderfel, Meirionydd. Rhoddwyd deheulaw cymdeithas iddi gan y diweddar Michael Jones, tua chwe mlynedd ar ôl sefydliad yr eglwys, a thua dwy flynedd cyn sefydliad yr achos Annibynol yn Llandderfel.
Yn 1831, ymunodd mewn glan briodas gyda David Owen, Ty Uchaf, yr hwn oedd hefyd yn ddyn ieuanc crefyddol, ac yn aelod os nad yn ddiacon hefyd o eglwys Bethel. Gwnaethant eu cartref ar Ffarm Bryndu hyd 1842, pan yr ymfudasant i'r wlad hon. Daathant yn mlaen yn ddiymdroi i ganolbarth Ohio, a phrynasant fferm fechan mewn lle dymunol ar bwys Newark, ac yma y treuliasant y gweddill o'u hoes yn gysurus a dedwydd. Ac os gellir dweyd am unrhyw ŵr a gwraig yn yr oes hon fel ag y dywedwyd am dad a mam Ioan Fedyddiwr, sef eu bod "Ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodlo yn holl orchymynion a deddfau yr arglwydd yn ddiargyhoedd," credwn y gellir cymwyso yr ymadrodd at Dafydd a Jane Owens.
Caffaeliad gwerthfawr i eglwys ieuauc Annibynol Newark yn 1842, oedd caal i'w chymundeb ŵr a gwraig mor ffyddlon, duwiol a defnyddiol. Yr oedd Mr. Owen yn ddiacon profedig a phrofiadol yn Nghymru, ac wedi cynorthwyo sefydlu llawer o ysgolion Sabbothol ac eglwysi yn Sir Feirionydd cyn dyfod yma. Yr oedd yn gyfarwydd yn y Belbl. yn ddirwestwr selog, ac yn llawn o ysbryd cenadol.
Yr oedd Tyuchaf a Bryndu yn gartrefi pregethwyr a gweinidogion yr Annibynwyr. Yr oedd Mrs. Owens yn hoff, yn nelllduol yn mlynyddoedd olaf ei hoes, o adrodd hanes cyfarfodydd crefyddol, cymanfaoedd a'r gweinidogion a adwaenai yn yr amser gynt. Pan oeddwn ar ymweliad â hi llai nag wytbnos cyn iddi farw, yr oedd yn ddifyr ei chlywed yn adrodd pregethau ac ymadroddion ffraeth Williams o'r Wern, Jones Llanuwchlyn, Pugh Mostyn, Morgans Samah, ac eraill. Cefnaer iddi oedd y Parch. John Parry a fu farw yn Gomer, Ohio.
Yr oedd yn siomedlgaeth fawr iddi am na chynaliwyd y cwrdd chwarter yma fel y bwriadwyd gwneyd yn gynar yn mis Mai, gan ei bod yn awyddus gweled, clywed ac ymddyddan a'r Parch. Griffith Jones, Columbus, Ohio, am ei fod yn frawd i'r Parch Richard Jones, Manchester, ar ôl yr hwn yr hiraethai yn ei dyddiau olaf, gan iddo farw yn ddyn mor ieuanc ac mor obeithiol.
Yr oedd hi yn hollol ymwybodol hyd y fynyd olaf; ac yr oedd pedwar o'r plant yn ei gwylo yn tynu yr anadl olaf. Ffarweliodd â hwy, cauodd ei llygaid fel pe yn myned i gysgu yn naturiol, a hunodd yn dawel. Er oedd yn ddiau mewn perffaith heddwch gyda Duw a phob dyn. Yr oedd yn fam i saith o blant, yr oll yn fyw - Thomas J. yn Dawn, Missouri; David D. yn agos i Carthage, yn yr un Dalaeth; Catherine yn Halstead, Kansas; Owen M. yn Bonny Doon, California; a'r tri eraill gartref, sef Jane, gweddw y diweddar James Evans, Big Bock, Illinois, a Robert a Margaret, y ddau ieuengaf. Y mae yr oll o'r plant fel eu rhien[, yn dwyn mawr sel dros yr achos da.
DANIEL THOMAS.