MR. GRIFFITH PIERCE. WEST PAWLET, VERMONT.
Ebriil 14eg, 1889, yn West Pawlet. Vermont, yn dra sydyn, Griffith Pierce, yn 85 mlwydd oed. Yr oedd yn ddyn golygus ac iach yr olwg, ond tybiai y meddygon fod rhyw annwyldeb arno er's blynyddoedd. Gwnaed ymchwiliad mewnol iddo, a chaed allan fod ei bibellau gwynt wedi eu niweidio, fel y bu iddynt gau yn ddisymwth, ac felly achosi marwolaeth sydyn. Gweinyddwyd arno gan bump o feddygon gyda'r gofal a'r tynerweh mwyaf.Chwech wythnos ya flaenorol i'w farwolaeth cafodd niweidiau trymion i'w fraich a'i gefn yn y chwarel lle y gweithiai ond yr oedd bron wedi llwyr wella dan ofal ein meddyg ieuanc, Dr. Pugh.
Yr oedd ei ddiangfa braidd yn wyrthiol y pryd hwnw. Brodor ydoedd Griffith o Garn Dolbenmaen, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni ydynt Thomas a Mary Pierce.
Ymfudodd i'r wlad hon chwe' blynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn y lle hwn. Ymbriododd dair blynedd a deng mis yn flaenorol i'w farwolaeth, gyda Miss Maggie Williams, merch i'r diweddar William Williams (West), ac Ann Williams - hen wralg barchus a duwiol, ac yn gynefin a phrofedigaethau y byd hwn. Bu i'r cwpl addawol ddau o blant, eithr un sydd yn fyw - canwyll llygad ei anwyl dad. Yn ystod ei oes fer briodasol, yr oedd rhagluniaeth yn dyner wrtho, ac yr oedd ei ragolygon ef a'i anwyl briod yn ddysglaer.
Cyfrifid ef yn ddyn caredig yn ei deulu ac yn mhob cymdeithas. Mae bwlch o'i ôl yn y chwarel sydd yn anhawdd ei lenwi; bwlch arall yn y brass band hebddo; bwlch arall yn rhestr tanysgrlfwyr mwyaf darllengar y DRYCH; bwlch yn ei hen gartref yn Nghymru, a'r gwagle mwyaf ar aelwyd ei briod alarus. Yr oedd Griff, yn wrandawr astud gyda'r T. C.
Oherwydd absenoldeb y Parch. Mr. Roberts, gweinyddwyd yn effeithiol yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. Mr, Owen (A.). Rhoed ei ran farwol yn West Pawlet Cemetery gan dorf luosog a pharchus, a'r Seindorf y perthynal iddo yn blaenori, ac yn canu alawon yn gweddu i'r amgylchlad galarus. Duw fo'n nodded i'w briod alarus a'i phlentyn bach, ac ymgysured i perthynasau a hen gyfeillion iddo yn ei wlad fabwysiedig ac yn Nghymru bell - lle y bwriadai ymweled yr haf agoshaol. Ond Ow! glyn cysgod angeu fu ei ran ef.