MR. ROBERT G. POWELL. DELTA, COLORADO.

Hydref 11eg, 1889, yn Delta, Colorado, o'r typhoid pneumonia, Robert G. Powell, brodor o Llanddeiniolen, Swydd Gaernarfon.

Ymfudodd i'r wlad hon ychydig dros ugain mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn nghymydogaethau llech chwarelau Swyddi York a Vermont. Oddiyno yn ngwanwyn 1882, symudodd i Colorado. Wedi crwydro o fan i fan am dymor ymsefydlodd yn Delta, Delta County, Colorado, yn yr hon le y gorphenodd ei yrfa ddaearol pan yn 43 mlwydd oed, gan adael gweddw a dau amddifaid i alaru eu colled am briod diwyd a thad gofalus.
E. O. R.

Y Drych ~ Hydref 31ain 1889.