MRS. ELIZABETH ROBERTS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Hydref 3ydd, 1889, yn 60 mlwydd oed, Elizabeth, priod Joseph Roberts, Slatington, Pennsylvania, o'r darfodedigaath.Ganwyd hi yn Penybenglog, Llandegai, Bethesda, Arfon. Ei rhieni ydoedd Morris a Laura Roberts, y rhai fuont o gryn fantais iddi ddod yn un o'r merched mwyaf rhinweddol yn y gymydogaeth.
Priododd yn 1846, a gadawodd Gymru am America yn 1882. Sefydlasant fel teulu yn Slatington; ac yn mhen ychydig darfu iddynt gladdu Laura, eu merch, yr hyn oedd yn brofedigaeth chwerw iddynt.
Yn 1887, symudasant i Bangor, Northampton County, a dyma y pryd y dechreuodd yr afiechyd lethu yr ymadawedig. Tua blwyddyn yn ôl dymunodd gael ei symud yn ôl i Slatington, a chaniatawyd iddi ei dymuniad. Cafodd gystudd trwm iawn; a thra yn meddu iechyd bu yn ffyddlon gyda chrefydd yn eglwys y T. C. Cadawodd ar ôl briod, yr hwn fu yn ei gwylio yn fanwl a gofalus am ddwy flynedd gyfan; un ferch, sef gwraig John W. Jones, ac un mab - yr oll yn y lle hwn.
Hydref 6ed, hebryngwyd ei gweddillion i fynwent; Wllliamstown, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Mr. Williams, Bangor.
RHEN GILGWYN.