MR. EVAN W. ROBERTS. BRIDGWATER, SIR ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Bu farw yn Bridgewater, Efrog Newydd, Gorphenaf, 14eg, 1889, Evan W. Roberts, yn 76 mlwydd a chwe' mis oed.Cartref ei rieni ydoedd Bwlchgwyn, Trawsfynydd, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o 13 o blant.
Yn 1838 ymbriododd ag Ellen, merch Robert Williams, Maentwrog. Ymfudasant i'r wlad hon yn 1849, a sefydlasant yn y sir hon, ac yr oeddynt er ys 36 mlynedd. yn ardal Bridgewater. Bu iddynt wyth o blant, pump o ba rai ydynt yn awr yn fyw, yn nghyda'i weddw, i alaru am dano.
Yr oedd yn wael er ys blynyddau lawer gyda'r crydcymalau, ac yn myned yn fwy musgrell fel yr oedd yn tynu yn mlaen mewn dyddiau. Bu am rai blynyddau yn gallu symud gyda chynorthwy ffon, ond bu raid taflu hon heibio, a chael baglau; a bu am rai blynyddau yn gallu ymlwybro peth gyda'r rhai hyn, ond er ys saith mlynedd, bellach, bu raid taflu y rhai hyn hefyd ymaith, ac ymfoddloni i'r gadair a'r ty.
Saer maen ydoedd wrth ei grefft, er mai amaethu yr oedd er ys llawer o amser bellach. Yr oedd wedi ymrestru dan faner Iesu Grist er ys dros 50 mlynedd yn adran y T. C. Bu yn milwrio yn ffyddlon gyda'r gwyr traed am lawer o flynyddoedd, ac oblegid ei gywirdeb a'i ffyddlondeb, yr oedd wedi ei ddyrchafu i safle swyddog blaenor o radd dda er ys 16 mlynedd. Bu yn ffyddlon ac ymroddgar yn nghyflawniad dyledswyddau y swydd newydd, fel Timotheus gynt, yn gwir ofalu am y pethau a berthynent i'r eglwys. Byddai yn gyson yn y moddion, er ar ei faglau, tra y gallai ymlwybro o gwbl; hael yn ei gyfraniadau i gynal yr achos, ac eiddigeddus dros burdeb a dysgyblaeth yr eglwys. Dyoddefodd ei gystudd maith gydag amynedd Cristionogol.
Er mai efe oedd y mwyaf adfydys yn y teulu, eto, efe oedd y mwyaf siriol. Teimlai ddyddordeb yn llwyddiant crefydd yn y cyfundeb y perthynai iddo. Yr oedd yn dderbyniwr ac yn ddarllenwr cyson o'r Cyfaill er ys 40 mlynedd. Hoff oedd ganddo adrodd y penill, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonau Nid oes neb a ddeil fy mhen." Tra y teimlir yn hiraethlon am dano, eto, mae ei fywyd dichlynaidd, llafur ei ganad, a phrofiad ei galon yn dweyd wrthym fod angeu yn elw iddo, ac y croesawir ef gan ei Arglwydd ag anerchiad y " Gwas da a ffyddlon."
Claddwyd ei weddillion gan dyrfa fawr yn mynwent yr ardal, a gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
John H. Jones.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1889.
MR. EVAN W. ROBERTS. BRIDGWATER, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
The last Will and Testament of Evan W. Roberts of the town of Bridgewater in the County of Oneida and State of New York.I Evan W. Roberts considering the uncertainty of this mortal life and being of sound mind and memory do make and publish this my last Will and Testament in manner and form following (that is to say).
First. I give and bequeath unto my beloved wife Ellen Roberts all my property both personal and real to have and to hold for her own individual use and benefit after my decease. And I do appoint my wife Ellen Roberts my Executrix and my son John E. Roberts of the City of Utica my Executor hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof I have set my hand and seal the 8th day of July in the year of our Lord one thousand eight hundred and eighty four.
Signed, sealed, published and declared by the above named Evan W. Roberts to be his last Will and Testament in the presence of us, who at his request and in his presence have subscribed our names as witnesses.
G H Parkhurst Bridgewater, Oneida
J. D. Pierce Bridgewater Oneida