MR. GRIFFITH H. ROBERTS. STRONG CITY, KANSAS.

Mehefin 9fed, 1889, yn Strong City, Kansas, yn 68 mlwydd oed, ar ôl pum wythnos o gystudd blin, Griffith H. Roberts, yr hwn ydoedd fab i Robert ac Ellen Humphrey, Beddgelert. Gogledd Cymru.

Pan yn lled ieuanc symudodd i Bethesda, lle y priododd Catherine Jones, merch Evan a Mary Jones, yr hon fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei fedd.

Bu iddynt chwech o blant, pum o'r rhai sydd yn fyw, sef tri mab a dwy ferch. Ymfudodd yr ymadawedig i'r wlad hon yn 1881, a dylynwyd ef gan ei deulu yn 1882. Buont yn cartrefu am beth amser yn Emporia cyn symud i Strong City.

Yr oedd efe yn ddyn hynaws a charedig, ac yn grefyddol o'i febyd. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i sefydlu yr ysgol Sul yn Strong City, a theimlir colled ar ei ôl gan y frawdoliaeth, gan ei fod yn ŵr o wybodaeth a phrofiad, ac yn selog gyda'r holl wasanaeth. Heblaw ei fod yn Gristion gloew, yr oedd hefyd yn gymydog ewyllysgar a pharod i wneyd cymwynas.

Yr oedd wedi trefnu ei holl amgylchiadau bydol ac ysbrydol, ac yn tawel ddysgwyl adeg ei ymddatodiad. "Ni frysia yr hwn a gredo." Bu farw ya esmwyth. Ychydig cyn hyny adroddai y penill-

"Yn Eden cofiaf hyny byth," a.y.,
a rhoddal bwyslais nelllduol ar y llinellau olaf-

"Ond buddugollaeth Calfari," a.y.

Y Sul canlynol claddwyd ef yn Emporia, yr ysgol Sul yn ei hebrwng i'r orsaf. Yr oedd yn angladd parchus - y Parchn. Jones, Osage City, a Richards a Jones, Emporia, yn gweinyddu yn y capel, a'r Parch. John Jones wrth y bedd yn mynwent Isaf Dry Creek. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded i'w weddw a'i blant.
HEN GYFAILL GALARUS.

Y Drych ~ Gorphenaf 11eg 1889.