MRS. JANE ROBERTS, MYNYDD GLAS, SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Ychydig eiriau am ei chysylltiadau teuluaidd:

Ganwyd hi yn ymyl capel Sardis, yn mhlwyf Lladdeiniolen, Sir Gaernarfon, G. C. Ei henw morwynig ydoedd Jane Parry. Ni fu iddi ond un chwaer, ac y mae bono, ni a gredwn, yn fyw yn awr, yn gyfagos i Bontnewydd.

Pan yn ddeunaw oed, priododd a John Roberts, a deilliodd o'r briodas naw o blant, o'r rhai y mae pump yn awr yn fyw, sef dau yn Slatington, a thri yn ninas New York. Claddasant ddau o blant yn naear Cymru, a dau yn naear America. Y mae delw eglur y tad a'r fam mewn llawer ystyr ar y plant sydd yn fyw.

Croesodd ein chwaer i America ar y cyntaf o Fawrth, 1851, ac yn mhen deunaw mlynedd ar hugain i'r un amser, croesodd i dragywyddoldeb. Cyfeiriodd ein cyfeillion i Slatington, yn hytrach nag un ysmotyn arall, o herwydd fod llechfeini wedi eu darganfod, ac yn cael eu gweithio yno, ac felly gobaith am gael dylyn yr un alwedigaeth ag a ddylynid yn Nghymru, gyda chyflog a manteision mwy. Cymaint a hyn yna am deuluyddiaeth a symudiadau ein chwaer.

Y peth a'n tarawodd ni drwy ymgydnabyddu a hi, fel ei nodwedd arbenig — y nodwedd o angenrheidrwydd a ffurfiai, a'i chymeriad fel mam, gwraig, a chrefydd-wraig, ydoedd ei hunaniaeth Gymreigaidd a duwiolfrydig. Er iddi newid gwlad, ac felly ddyfod i gyffyrddiad a gwahanol genedloedd, eto ni ddifawyd ac ni chyfnewidiwyd ei hunaniaeth. Gwlad ryfedd ydyw America am newid ymddangosiad corphorol, yn ogystal a defion cymdeithasol; ac, er mawr drallod, ansawdd ysbrydol y meddyliau a ymfudant iddi; ond methodd America wneyd dim o Jane Roberts ond Jane Roberts. Ni chymerodd ond ychydig o gyfnewidiad le yn ei dullwisg, yn ei lleferydd, yn ei dull o fyw, nac yn naws danbaid crefydd ei henaid.

Yr oedd yn debyg iawn hyd y diwedd i wraig anrhydeddus fuasai wedi treulio ei hoes rhwng mynyddau Arfon. Yr oedd felly yn ei charedigrwydd naturiol; yr oedd felly yn ei hymddangosiad corphorol; yr oedd felly yn ei hymostyngiad parodol i'w phriod; yr oedd felly yn ei haddysg i'w phlant, ac yr oedd felly hefyd yn ei gofal angerddol am dy yr Arglwydd, yn nglyn a gwahanol ranau ei wasanaeth. A chyd wasanaethodd amryw amgylchiadau i gyd-gadarnhau yr hunaniaeth hon. Yn un peth, gadawodd Gymru cyn goresgyniaeth dandieiddiwch Seisonig, a chyn bod peiriant addysg ddyddiol — y peiriant sydd yn gwneyd bron bawb yr un hyd a'r un bwysau — wedi ei osod mewn troelliad. Daeth i America yn ol yr hen ffasiwn.

Daeth yma, nid gyda yr agerlong gyflym a chysurus, ond yn yr hen "Hemisphere," druan, fu a'i hwyliau yn cardota trugaredd oddiar y gwyntoedd am bum' wythnos a thri diwrnod. Ac wedi cyrhaedd Slatington, nid oedd yn y lle nemawr dai na phobl i'w hatdynu i gylch eu delw a'u dylanwad, ac felly nid ymwisgodd yn mlynyddau cyntaf ei sefydliad yn nillad benthyg defion pobl eraill. Ond at hyn yr oeddym am ddyfod, cadwodd yn ddigyfnewid fel crefyddwraig am haner can mlynedd. Profodd wrth fyw yn America fod ei hargyhoeddiad yn Sardis yn drwyadl, ac fod y cyfnewidiad yn llwyr.

Y mae newid gwlad wedi profi didwylledd proffes miloedd lawer; a gwaethaf y modd, y mae rhai miloedd wedi gwywo wrth gael eu dadwreiddio o'u gwlad eu hunain, a'u trawsblanu mewn gwlad ddyeithr. Gwnaeth y grefydd a gafodd Jane Roberts yn Ngwalia wrhydri yn y Talaethau Unedig. Galluogodd hi, yn nghymdeithas ei phriod, ar lawer Sabboth, i gerdded dwy filldir ar bymtheg, a hyny dros ddwy restr o fynyddoedd, er cyfarfod a Duw ei thadau yn Summit Hill! Cerddodd drwy wlawogydd, drwy gorsenydd, drwy goedwigoedd, a thrwy bob peth, yn ymawyddiant ei henaid am gymdeithas yr Arglwydd a'i bobl.

Ychydig wythnosau cyn dechreu boreu ei Sabboth tragywyddol, aeth hi a'i phriod i dreulio Sabboth yn Ferndale, Pennsylvania. Cyn y gallasent gael y bregeth foreuol, yr oedd yn rhaid iddynt gychwyn o'r Mynydd Glas am dri o'r gloch y boreu; a chyn y gallasent gael oedfa y nos, yr oedd yn rhaid iddynt foddloni i beidio cyrhaedd y Mynydd Glas yn ol hyd ddeuddeg o'r gloch yr un noson!

Wrth ystyried oedran y ddau, a'r aberth a olygai addoliad y diwrnod hwnw, pwy ond yr hen bobl dda er ys llawer dydd all amgyffred y pleserau a fwynhaodd y ddeuddyn anwyl?

Llwybr aberth ydyw, llwybr dedwyddwch a buddugoliaeth. Ac, yn ol arferiad ei gwlad enedigol, ymdorai ein chwaer allan weithiau i orfoleddu yn yr addoliad cyhoeddus. Clywsom unwaith ei llais clychaidd yn gwaeddi yn uchel, " Diolch iddo." Yna yn uchafnod ei llais yn adrodd y penill,

"B'le, b'le,
Y gwnaf fy noddfa dan y ne',"

Ac yn bur fuan wedyn, yr oedd y trydan dwyfol wedi gwneyd y cyfarfod yn gyffelyb i un o gyfarfodydd diwygiadol Cymru fu; o'r braidd y gwyddai neb yn mha le yr ydoedd dros enyd. Diau fod ei chymdeithas a John L. Roberts, ei phriod, wedi bod yn dra manteisiol iddi fel crefyddwraig, oblegid, mewn gwirionedd, yr oedd perthynas agosach rhwng John a Jane Roberts fel brawd a chwaer yn Nghrist, nag ydoedd rhyngddynt fel gwr a gwraig yn yr ystad briodasol. Y mae y berthynas gyntaf wedi ei dileu yn angeu. Y mae yr olaf mor gyflawn heddyw ag erioed. Er i'n chwaer gadw ei hunaniaeth pan fu farw, disgynodd cawod o ddagrau dros ardal Slatington na welir ond anfynych ei chyffelyb.

Cafodd yr angladd anrhydeddusaf allasai gwraig gael, yn yr hwn y gweinyddai yr ysgrifenydd. Troai calonau y galarwyr megys heibio i'w galar eu hunain at alar y prif alarwr, sef yr hen bererin gwerthfawr John Roberts, ac aeth aml ochenaid at Dduw ar ei ran. Ow! y golled gafodd eglwys fechan Slatington yn ymadawiad fy chwaer!

Y Wawr ~ Awst 1889.