MR. JOHN E. ROBERTS. COLUMBUS, OHIO.

Mehefin 3ydd, 1889, yn ei gartref yn Columbus, Ohio, John E. Roberts, mab Edward Roberts, Hendy'rparc, Bethesda, Gogledd Cymru, a brawd i'r diweddar Robert E. Roberts, organydd, Bangor, Gogledd Cymru.

Bu farw yn sydyn o glefyd y galon. Bu yn briod ddwy waith, a bu iddo ddau o blant o'r wraig gyntaf, sef mab a merch. Claddodd ei fachgen wyth mlynedd yn ôl. Priododd yr ail walth gyda Ellen H. Williams, sef gweddw y diweddar William H. Williams. Y mae Mrs. Boberts yn ferch i Robert Boberts, Ciltrefnus, Bethesda.

Wyth mlynedd yn ôl bu yn arolygydd i Hugn W. Hughes: wedi hyny aeth i'r Gorllewin. dros H. W. Hughes, i werthu llechau, ac yr oedd yn deall ei waith yn iawn. Deuwyd a'i gorff i West Pawlet, Vermont, ddydd Gwener, Mehefln 7fed. a chladdwyd ef dydd Sadwrn yn mynwent Middle Granville, New York.

Gwasanaethwyd yn ei angladd yn nghapel y M. C. gan y Parch. John W. Morris. South Poultney, ac wrth y bedd gan y Seiri Rhyddion, gan ei fod yn aelod o'r urdd. Gadawodd briod i alaru ar ei ôl, yn nghyd a chwech o blant. Tad yr amddifad a ofalo am danynt.
J. CYNFRIG JONES.

Y Drych ~ Aswt 1af 1889.