MRS. MAGGIE ROBERTS. 159 FAREWELL AVENUE, MILWAUKEE, WISCONSIN.

Ionawr 19eg, 1889, yn 30 mlwydd oed, wedi ond ychydig ddyddiau o gystudd, Mrs. Maggie Roberts, priod Mr. Edward W. Roberts, 159 Farwell Ave., Milwaukee, Wisconsin.

Merch ydoedd i Mr. Rice Roberts, Bwlch y Mwlchan, Nant Gwynant. Beddgelert, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn chwaer i Mrs. W. E. Powell (Gwilym Eryri).

Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu saith mlynedd yn ôl, gan wneyd ei chartref yn mysg ei pherthynasau yn Milwaukee. Pum mlynedd i'r mis presenol ymunodd mewn priodas â Mr. Roberts, a gwnaethant iddynt eu hunain gartref bychan hynod o gysurus a chyfleus, ac ymddangosai heulwen bywyd yn tywynu yn ddysglaer arnynt; ond yn mhen ychydig ddyddiau ciliodd ymaith yr holl ddysgleirdeb, a daeth i drigo i'r anedd fechan ddedwydd, alar a gofid. Gafaelodd brenin dychryniadau yn nghyfansoddiad prydferth, ac ymddangosiadol gryf, y briod ieuanc; ac mewn llai na phythefnos yr oedd y wên siriol, y geiriau caredig a synwyrol, wedi rhoddi lle i ddystawrwydd yr angeu - yr oedd y chwaer ieuanc wedi huno yn yr Iesu.

Bu farw yn hollol fel y bu fyw - yn berffaith dawel a digyffro. Nodweddau nelllduol bywyd Mrs. Roberts oedd tawelwch, addfwynder, ysbryd Cristionogol a synwyr cyffredin cryf ac amlwg.

Derbyniodd addysg grefyddol dda gan ei mam pan yn blentyn gartref: ac fel yr oedd yn heneiddio, nid yn unig nid oedd yn ymado a'r addysg hono, ond yn hytrach yn barhaus yn ymaddtedu mewn ysbryd crefyddol. Er iddi farw yn dawel, heb ddweyd dim, yr oedd ei bywyd crefyddol dysglaer, a'i chymeriad uchel, yn ddigon o dystiolaeth ei bod, yn ei hymadawiad a'r ddaear, yn cael mynedad helaeth i mewn i dragywyddol orphwysfa y saint yn y nefoedd. Rhoddwyd yr hyn oedd farwol o honi i dawel orwedd hyd ddydd adgyfodiad gwell yn mynwent y Forest Home, ger y ddinas hon.

Cafodd angladd lluosog a pharchus iawn. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad pruddaidd gan y Parch. J. O. Jones, gweinidog yr eglwys yr oedd yn aelod ohoni, a'r Parch. Joseph Roberts, Racine.

Y Sabboth dylynol rhoddodd Mr. Jones bregeth angladdol, a gwnaed sylwadau coffadwriaethol pwrpasol yn y cyfarfod eglwysig.

Y Drych ~ Chwefror 21ain 1889.