MR. MORRIS ROBERTS. ARVONIA, KANSAS.
Hydref 11eg, 1889, yn Arvonia, Kansas, Morris Roberts, yn 27 mlwydd a 6 mis oed, o glefyd madruddyn y cefn (spinal disease), yn nghyd a darfodedigaeth. Mab ydoedd i David ac Ann Roberts, Pantglas, Clynog, Gogledd Cymru. Ganwyd a magwyd Morris yn mhlwyf Llanfihangel, Pennant, Sir Gaernarfon.Ymfudodd i'r wlad yma tuag wyth mlynedd yn ôl, a sefydlodd ar y cyntaf yn Wilkesbarre, Pennsylvania; ond pan ddaeth ei rieni a'r teulu oll o'r Hen Wlad tua phum mlynedd yn ôl ac a sefydlasant ar fferm yn ardal Arvonia, daeth yntau yma atynt, ac yma y bu yn ddiwyd a gweithgar hyd ei farw. Tua saith mis yn ôl claddwyd el dad, a thua'r un amser dechreuodd ei iechyd yntau a gwaelu. Ni feddyliodd neb na fuasai yn dyfod dros hyny yn fuan; ond yn lle dyfod yn well gwaethygu ar brydiau a wnai, gan achwyn poenau arteithiol yn ei gefn a'i fynwes. Bu gyda'r meddygon goreu yn yr amgylchoedd, ond nid llawer o les ac esmwythdra a dderbyniai oddiwrthynt. O'r diwedd awd ag ef i Lyndon i fod o dan law dau o'r meddygon goreu yno, a bu ei anwyl fam, ei chwaer a'i frawd yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Robert Hughes, yn gweini arno yn ofalus tra y bu yno tua mis o amser. Ond er holl ofal a thynerweh ei fam a'i berthynasau eraill, ac er pod dyfais o eiddo y meddygon i leddfu ei boenau annesgrifiadwy, nid odd dim yn llwyddo, nes o'r diwedd yr oedd wedi myned yn rhy wan braidd i fyw.
Dygwyd ef adref, ac yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny yn llwyr mai marw oedd raid er cymaint oedd ei awydd a'i dymuniad am gael gwella a byw - marw a gafodd; ond yr oedd beth amser cyn iddo farw wedi llwyr ymfoddloni i ewyllys a threfn Duw, fel y gwelir pan yn adrodd ei broflad wrth ei frawd yn-nghyfraith ar ei wely cystudd yn mysg dyeithriaid yn Lyndon; a phan yn ei boenau yn y nos, yr unig wrthrych a roddai ychydig gysur iddo oedd seren oleu a ganfyddai drwy'r ffenestr bob nos, ac yn ei gystudd a'i boenau cyfansoddodd y llinellau canlynol:
"Ti seren fach dysgleiria
Drwy'r ffenestr arnat fi,
Sydd yma mewn poenydiau
Yn nghanol estron lu;
O Dduw, wel cymer feddiant
O'm henaid egwan trist,
A dwg fi i ogoniant
I gwmni Iesu Grist."
Er nad oedd Morris Roberts yn proffesu crefydd eto yr oedd yn ddyn ieuanc moesol iawn, ac o rodiad diargyhoedd a chymeriad difrycheulyd, ac yr oedd yn esiampl i'w efelychu i lawer o dynion ieuainc sydd yn proffesu crefydd. Yr oedd yn feddianol ar dalent gerddorol dda ac yn ganwr gwych. Hyderus ydym ei fod wedi cael myned yn ôl ei ddymuniad i wlad y canu tragwyddol, lle na fydd "Diwedd byth ar swn y delyn aur."
Claddwyd ef yn barchus ac anrhydeddus prydnawn Sul canlynol yn mynwent Arvonia, y Parch. D. Thomas (T. C.), Osage City, yn dwyn y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn Gymraeg a Saesneg, a chanodd pobl ieuainc Arvonla yn hynod o effeithiol ar lan y bedd - "Bydd myrdd o ryfeddodau," a.y.
Cafodd yr angladd lluosocaf a pharchusaf a welsom yn Arvonia eto. Cydymdeimlir yn fawr a'i anwyl fam a'i frodyr a'i chwiorydd yn eu galar dwfn ar ei ôl. Dyddaner hwy a'r meddwl gwynfydedig y cant eto gydgwrdd.
Morris Roberts, y cyfaill siriol,
Dorwyd 'lawr yn 'ngrym ei oes,"
Ond ei ysbryd a ddiangodd
At y "Gwr fu ar y Groes."
Yn ei flin a'i chwerw gystudd,
Mawr ddymunai am gael byw;
Ond pan welodd nad oedd gobaith,
Ymfoddlonodd i drefn Duw.
NICHOLAS DDU.