MR. WILLIAM ROBERTS. TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 23ain, 1889, yn 77 mlwydd o'i hoedran, Mrs. Catherine Boberts, priod Mr. William Boberts, ieu., Turin, Lewis County, New York.

Hefyd, Medi 10fed, 1889, William Roberts uchod, yn 78 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd y ddau o blwyf Aberdaron, Arfon. Enw man genedigol ein mam ydoedd Tynllidiart. Enwau ei rhieni ydoedd Robert a Mary Williams, y rhai a fuont feirw flynyddau yn ôl yn y wlad hon. Mae iddi chwaer yn Rome, New York, sef Mary, mam y diacon Abram Jones.

Enw cartref boreuol ein tad ydoedd Pen-ar-fynydd. Enwau ei rieni oedd Wil1iam ac Ann Roberts. Ymunodd y ddau ymadawedig mewn glan briodas 56 o flwyddi yn ôl. Bu iddynt 11 o blant, o'r rhai y mae naw yn fyw, sef William, Robert, Thomas, James. Richard, John, Kate, Ellen a Mrs. William J. Jones, Middle Granville.

Trafferthus a blin ar y cyfan fu eu taith trwy y byd. Daethant i'r America yn 1845. Sefydlasant yn Lewis County yn fuan ar ôl glanio, a buont yno weddlll eu hoes. Fel y dywedwyd eisoes, blin a siomedigaethus fu eu taith, eto gallwn gael lle cryf i obeithi a chredu fod y diwedd yn dda - yr oedd marw yn elw iddynt. Maent erbyn hyn, er yr holl groeswystoedd, wedi cyraedd yr hafan yn ddiogel.

Cymorth a gaffom ninau y plant i gymeryd at ein hystyriaeth y priodoldeb i fod yn barod. Bu eu merch Ellen yn enwedig yn hynod ofalus am danynt yn eu henaint a'u gwendid. Gweinyddwyd yn effeithiol iawn y naill dro a'r llall gan y Parch, E. C. Evans, M. A. Remsen.
UN O'R PLANT.

Y Drych ~ Hydref 3ydd 1889.