MR. DANIEL WILLIAM ROWLAND. BROWNVILLE, MAINE.
Mai 29ain, 1889, yn Brownville, Maine, yn 78 mlwydd oed, o'r inflammation of the bowels, Daniel William Rowland.Yr oedd yn enedigol o Gilgeraint, ger Bethesda, Gogledd Cymru.
Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o Fynydd Llandegai, yn Mehefin, 1861.
Yr oedd yn gymydog tawel a heddychlawn, ac yn ddiacon o'r eglwys Gymreig yn y lle.
Gwasanaethwyd yn ei angladd yn y tŷ gan Mr. McBride, gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol Seisnig, a chan Richard O. Jones, gweinidog yr eglwys Gymreig.
Claddwyd ef yn mynwent Brownville. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei ôl. Y mae iddo un brawd yn Granville, set John William Rowland, ac un chwaer yn yr Hen Wlad.
D. LLOYD.