MR. HUMPHREY THOMAS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 29ain, 1889, yn 80 mlwydd oed, Humphrey Thomas, Slatington, Pennsylvania.Y parlys oedd ei afiechyd.
Daeth i'r wlad hon yn 1857, gan sefydlu ar y cyntaf yn Slatedale, lle y treuliodd lawer o flynyddau.
Ganwyd ef yn Llandwrog, Sir Gaernarfon. Bu ei briod farw tua blwyddyn yn ôl. Gadawodd dri o blant i alaru am dano, sef John, Hugh a Mrs. Catherine Owens.
Claddwyd ef ar ddydd Calan yn mynwent Fairview.