MRS. CATHERINE WILLIAMS. EMMETT, WATERTOWN, WISCONSIN.
Mai 13eg, 1889, yn nhy ei merch, Mrs. D. J. Evans, Emmett, ger Watertown, Wisconsin, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Catherine Williams, gweddw y diweddar William Williams.El hafiechyd oedd y cancer ar y cylla. Dyoddefodd gystudd malth a pboenus ar adegau. Bu yn gwaelu am tua 12 mis, ac yr oedd wedi cael ei chyfyngu i'w gwety yn hollol er's deng wythnos cyn ei marwolaeth. Bu meddygon goreu y ddinas yn gweini arni; ond angeu drechodd bawb a pbobpeth. Cafodd bob chware teg ac ymgeledd gan ei hanwyl ferch a'r teulu. Bu Mrs. Evans yn bobpeth i'w mam er ei chysuro a'i noddi yn ei dydd blin.
Claddwyd hi yn mynwent Emmett ar y 15fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. B. Jones, Ixonia, a Timothy Jones.
Yr oedd Mrs. Williams yn enedigol o Ddyffryn Ardudwy. Sir Feirionydd. Daeth i'r wlad hon 40 mlynedd yn ôl yn wraig weddw gyda thri o blant bychain. Buont fyw am chwech neu saith mlynedd yn nghymydogaeth Utica. Ail briododd Mrs. Williams a symudasant i Wisconsin. Gadawodd pedwar o blant i alaru ar ei hol, y rhai oeddent oll yn angladd eu mam, oddigerth y mab hynaf. sef John Lloyd, Randolph, yr hwn yntau sydd yn gystuddiedig er's dwy flynedd, ac yn rhy analluog i ddod o'r tŷ. Dangosodd y plant bob tynerwch a pharch i'w mam.
Yr oedd eu galar a'u difrifoldeb ddydd yr angladd yn profi hyny. Cafodd gladdedigaeth barchus - dim traul na thrafferth yn cael ei arbed. Mae plant da yn werthfawr pan ddaw hi yn ddydd blin ac yn amser trallod ar eu rhieni. Yr oedd y chwaer wedi ymuno â chrefydd Iesu Grist er's tua 80 mlynedd. Siaradai y gweinidogion yn uchel am nerth a sylwedd ei chrefydd. Yr ydym yn hyderu fod marw yn elw iddi, a'i bod erbyn hyn wedi derbyn ei hetifeddiaeth yn mhlith y rhalia santeiddiwyd.
HUMPHREY MORRIS.