MR. GRIFFITH WILLIAMS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Chwefror 19eg, 1889, Griffith Williams, y Cymro hynaf yn West Bangor, Pennsylvania.Brodor ydoedd o Penrhyndeudraeth. Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r gymydogaeth hon tua 40 mlynedd yn ôl o Ffestiniog. Pe buasal wedi cael byw hyd yr ail ar hugain, buasai wedi cyraedd ei 84 mlwydd oed. Bu farw o effeithiau ergyd o'r parlys. Yr oedd Griffith Williams wedi bod yn ddefnyddiol mewn llawer cylch yn ei amser goreu. Gwnaeth lawer iawn o gymwynasau i'w gymydogion a'i gydnabod. Yr oedd yn llawfeddyg hynod o fedrus, ni byddai neb ya meddwl myned a doluriau o fath yn y byd i'w gwella ond ato ef yma. Gosododd esgyrn lawer yn eu lle hefyd, er nad oedd yn proffesu bod yn gyfarwydd a'r gorchwyl hwnw; ond yr oedd yn well gan lawer o honom ymddiried iddo ef na neb arall, a byddai bob amser yn llwyddianus. Gwnaeth hyn am amser maith am ychydig iawn o gydnabyddiaeth, a byddai ambell un yn ddigon diegwyddorol i fyned o'r ardal heb ei gydnabod o gwbl, wedi iddo dreulio arian ac amser i'w meddyginiaethu. Byddai ymddygiadau fel hyn yn peri iddo benderfynu peidio ymwneyd a'r gorchwyl mwy; ond deuai rhywun ato drachefn yn anafus, ac nis gallai ei droi heibio - dim ond bygwth yn hyll dyna'r cwbl drosodd.
Yr oedd wedi bod yn cynorthwyo llawer ar y llawfeddyg anghydmarol, y diweddar John Roberts, Ffestiniog, ac i'r fantais a gafodd gydag ef y priodolai ei fedrusrwydd.
Bu hefyd yn flaenor eglwysig gyda'r T. C. am tua 35 mlynedd. Bydd llawer yma yn cofio am dano, ac am ei gyngorion, yn enwedlg y plant sydd wedi eu magu yma. Byddaf yn ffyddlon a haelionus gyda chyfranu at bob achos da tra y gallodd. Meddai gof da, clywais ef yn adrodd sylwadau o bregethau wrandawodd cyn geni y rhan fwyaf ohonom. Byddai yn hoff lawn o adrodd sylwadau o eiddo y diweddar Barch. Richard Jones, Wern. Bu yn ei wasanaeth ef am dymor. Meddyliai yn uchel, a siaradai yn barchus iawn am dano fel Cristion a gweinidog duwiol a llafurus. Byddai yn darllen llawer - prif faes ei lafur oedd hanesyddiaeth y Beibl, yn nelliduol yr Hen Destament.
Cyfarfu yntau a llawer o brofedigaethau chwerwon. Bu yn briod ddwywaith. Claddodd y gyntaf yn Nghymru; ond tybiwn mai colli y diweddaf oedd prif brofedigaeth ei fywyd, gan ei fod wedi myned mewn gwth o cedran, ac heb neb i ofalu am dano. Effeithiodd hyn yn fawr arno, ac wedi colli ei briod collodd y cwbl a feddai; a rhwng henaint a'r profedigaethau hyn, yr oedd ei feddwi wedi ymddyrysu yn y blynyddoedd diweddaf fel nad oedd yn gyfrifol am ei ymddygiadau a'i weithredoedd mwy na'r plentyn bach. Yr oedd yn un o ddynion cryfaf yr oes yn ei amser, a pbarhaodd yn gryf anarferol hyd y diwedd. Byddwn yn cael fy meddianu gan iasiau o ddychryn pan y byddai yn estyn ei law i mi, gan mor garedlg y byddai yn gafael gyda llaw mor haiarnaidd a gefail y gof.
Mwynhaodd iechyd pur dda ar hyd ei oes faith; ond daeth ei ddyddiau yntau i ben, a gobeithiwn ei fod
"Wedi dlanc uwch pob clwy,"
a'i fod
"Wedi esgyn o'r dyrys anialwch
I'r beraldd baradwys i fyw."
Claddwyd ef yn barchus ar yr 21ain, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion Cymreig. Daeth ei unlg fab yma i'w gladdu, gan ddwyn y treulieu, sef Edward Wlllfams, Pittsburg. Nid wyf yn gwybod a oes iddo frodyr neu cbwiorydd yn Nghymru, yr wyf yn meddwl nad oes. Byddai yn son llawer am nai sydd iddo yn argraffydd yn Neheudir Cymru o'r enw Edward Cartwright. Gwelais lythyrau ganddo oddiwrth hwnw lawer gwaith.
Heddwch i'w lwch.