MRS. JANE WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Awst 8fed, 1889, yn 60 mlwydd oed, Mrs. Jane Williams, priod Mr. John M. Williams. Middle Granville, New York.

Ganwyd yr ymadawedig yn Braichmelyn, Bethesda, Arfon. Merch ydoedd i William Williams, neu William Williams, Cae Mawr, fel ei gelwid, a Catherine ei wraig. Ganwyd hi yn 1839. Tua 38 mlynedd yn ôl priododd Richard Roberts, Tanycae, ond cyfarfu ef a damwain a drodd yn angeuol iddo yn chwarel Cae Braich y Cafn, fel na fu eu gyrfa briodasol ond prin bum wythnos. Tua 36 mlynedd yn ôl ail briododd gyda John M. Williams, yr hwn oedd yn byw ar y pryd gyda rhienl ei wraig gyntaf yn Cefn Cwlyn, Bethesda. Buont yn byw yn Nghwmyglo a Phen y Gilfach, Glyn Rhonwy, Llanberis, o'r lle yr ymfudasant i'r wlad hon 34 o flynyddoedd yn ôl, gan sefydlu yma.

Bu iddynt dri o blant, o'r rhai y mae dau yn fyw i gydalaru a'u tad, sef Mrs. Morris Morris, Bangor, Pennsylvania, a Mrs. Thomas Rees, o'r lle hwn. Bu Mrs. Williams yn nychu am flynyddoedd - weithiau yn teimlo yn adfywio, ond y diwedd bob amser yw, angeu yn cael y fuddugoliaeth. Cafodd fagwraeth grefyddol yn moreu ei boes, yr hyn yn ddiau fu yn fantais fawr iddi, a daliodd ei phroffes ar hyd y daith. Teimlai yn berffaith foddlawn i ewyllys ei Thad Nefol; er y carasai gael byw, eto yr oedd yn meddwl y gallai ddweyd "Dy ewyllys di a wneler." Credwn ei bod yn rhyw addfedu fel yr oedd yn nesu at y terfyn. Bu fel yr hen genedl, yn ôl ac yn mlaen at lan yr Iorddonen, i bob golwg ddynol yn rhoddi ei thraed yn ei dyfroedd, wedi hyny yn trol yn ôl i'r anialwch am ychydig fisoedd; er hyny nid ofnai - ei thystiolaeth ydoedd ei bod yn meddwl yn sicr fod yr Archoffeiriad a hlthau mewn undeb a'u gilydd, ac na byddai iddo ei gadael yn y dyfroedd; eithr yn hytrach y byddai yn llon'd ei addewid - "Pan elych trwy y dyfroedd, mi a fyddaf gyda thi."

Ymgysured y perthynasau yn y meddwl ei bod hi mewn gwlad na ddywed yr un o'r preswylwyr, "Claf ydwyf." Cafodd un o'r angladdau lluosocaf fu yn yr ardal hon erioed.

Gweinyddwyd gan y Parchn. J. W. Morris, South Poultney, ac Edward Roberts, ein gweinidog.

Y Drych ~ Awst 29ain 1889.