MRS. JANE WILLIAMS, GRIFFITH W. ROBERTS. UTICA, NEW YORK.

MRS. JANE WILLIAMS. Ebrill 21ain, 1889, yn nhy ei merch, Mrs. W. M. Davies, 44 Spring Street, Utica, N. Y., bu farw, yn 82 mlwydd oed, Mrs. Jane Williams, hawddgar briod y diweddar Herbert Williams, yr hwn a hunodd yn yr angeu bedair blynedd yn ôl.

Ganwyd Mrs. Williams yn Pwllheli, G. C, o'r lle yr ymfudodd i'r wlad hon 61 mlynedd yn ôl, a threuliodd yr amser hwnw bron oll yn Remsen. Nid ydym yn gwybod iddi fod o'r plwyf ond ychydig wythnosau cyn ei hymadawiad a'r fuchedd hon yn Utica, a llawn fwriadai ddychwelyd i orphen ei gyrfa ddaearol yma, ond nid felly y bu. Y dydd Mercher dylynol i'w marwolaeth, cludwyd yr hyn oedd farwol o honi gyda'r cars i Remsen, a gosodwyd hwynt i orwedd wrth ochr ei phriod yn mynwent Bethel. Gweinyddwyd yn yr addoldy ac ar lan y bedd gan y Parch. Edward Davies a J. Seth Jones.

Hanodd Mrs. Williams o deulu parchus, a bu iddi amryw frodyr a chwiorydd, o'r rhai y mae William Hughes, Boonville, a Hugh Hughes, Bethel, yn aros hyd yr awr hon, a bu yr olaf yn garedig iawn iddi, ac yn ofalus iawn am dani, a hyny mewn modd sylweddol.

Yr oedd hi yn fam i Mrs. E. T. Jones, Wabash, Minnesota, Mrs. Josiah Jones, Alden, Minnesota, Evan H. Williams, Sydney, Awstralia, Hugh H. Williams, Corning, Arkansas, William H. Williams a Hattie A. Williams, Remsen, Mrs. E. W. Jones a Mrs. W. M. Davies, Utica. Yr oedd iddi 35 o wyrion, a 15 o or-wyrion.

Bu yn aelod crefyddol ffyddlon a serchog am 58 o flynyddoedd yn Nghapel Isa', Steuben, a chadwodd ei ffydd heb ei llychwino hyd y diwedd. Bu yn briod hawddgar a ffyddlon, yn fam dyner a gofalus, yn gymydoges dawel, heddychlawn, a diabsen, ac yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.

Y Wawr ~ Awst 1889.