MR. JOHN J. WILLIAMS. PLAINFIELD, NEW YORK.
Medi 10fed, 1889, yn Plainfield, New York, John J. Williams, yn 62 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon yn 1850, ac ar ôl treulio rhai blynyddau yn nghylchoedd Utica aeth i Plainfield a phrynodd ffarm, ar yr hon y treuliodd y gweddill o'i oes.
Yr oedd yn ddyn crefyddol, ac yn un o'r dynion mwyaf cymwynasgar a feddai y gymydogaeth.
Gadawodd wraig a phedwar o blant mewn galar dwfn ar ei ôl, ond mewn amgylchladau cysurus. Daeth llu mawr o'i hen gydnabyddlon i'w angladd, a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent Unadilla Forks.
Gweinyddwyd gan y Parchn. O. W. Roberts, R. Jones, T. H. Griffiths a'r ysgrifenydd. Bydded i'r un mawr hwnw a addawodd fod yn Farnwr i'r gweddwon a Thad i'r amddifaid fod yn llon'd ei addewid i'r teulu anwyl hwn.
HUGH R. WILLIAMS.