MRS. MARY ELLEN WILLIAMS. WEST PAWLET, VERMONT.

Hydref 26ain, 1889, yn 25 mlwydd oed, yn West Pawlet, Vermont, Mary Ellen, merch i Robert W. Williams, a phriod William D. Williams, o Cwmbran. Mynydd Llanllyfni, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon o Llanberis, gyda dwy chwaer iddi, yn Awst, 1887, ac am ysbald bu yn cadw tŷ i'w thad; ond ni bu yn hir cyn priodi gyda William D. Williams, yr hwn a fu yn briod tyner a goftalus ohoni. Yn fuan ar ôl iddi briodi dechreuodd ei hiechyd wanhau, a bu yn dyoddef o dan y darfodedigaeth yn dawel a dirwgnach. Bu yn ei gwely am wyth mis. Ar y cyntaf yr oedd yn methu boddloni i orucbwyliaethau Duw tuag ati; ond fel yr oedd yn agosau at ddydd ei hymadawiad yr oedd yn ymdawelu. Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth talodd y Parch. Thomas M. Owens ymweliad â hi, ac yr oedd erbyn hyn yn dywedyd, ewyllys yr Arglwydd a wneler.

Dydd Mawrth, Hydref 29ain, claddwyd hi yn y White Cemetery, West Pawlet. Awd a'i chorff i gapel y T. C. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ganu yr Emyn 838 yn wir effeithiol.

Gweinyddwyd gan y Parch. Thomas M. Owens. Gadawodd dad a dwy chwaer a phriod a phlentyn bach wyth mis oed i alaru ar ei hol, heblaw llawer o berthynasau a chyfeillion. Yr oedd yn aelod o eglwys y T. C.

Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu yn eu galar, a dymuna William D. Williams gyflwyno ei ddiolchgarwch i'r ardalwyr am eu cydymdeimlad atynt fel teulu yn eu profedigaeth chwerw.

Cysged bellach ar obenydd,
Gwen obenydd esmwyth ffydd,
Hyd nes delo'r bore hwnw
Y daw o'i bedd ar doriad dydd.
J. CYNFRIG JONES.

Y Drych ~ Tachwedd 14eg 1889.