MR. WILLIAM H. WILLIAMS. FREEDOM, CATTARAUGUS, NEW YORK.

Ebrill 1af, 1889, ar ôl rhai misoedd o gystudd trwm, William. H. Williams, Freedom, Cattaraugus County., New York.

Ganwyd ef yn Llanarmon, ger y Berch, Pwllheli, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Hugh ac Eleanor Williams. Daeth i America 31 o flynyddau yn ôl, gan ymsefydlu yn Attica, New York. Bedyddiwyd ef 28 o flynyddau yn ôl yn Attica Centre, gan y Parch. J. P. Harries. Gyda'r T. C. y magwyd ef, ac ymunodd â hwy yn Pennant, gerllaw Garn Dolbenmaen, pan yn 16 oed.

Yr oedd ein brawd anwyl wedi symud i Cattaraugus er's amryw o flynyddoedd, a bu yn aelod ffyddlawn a diwyd yn hen eglwys (B.) barchus Freedom hyd ei farwolaeth. Nid ydoedd wedi cyraedd llawn 63 oed. Dyoddefodd ei gystudd yn hynod o dawel a di rwgnach, ac yr oedd yn ymwybyddol fod Gwr yr ymddiriedodd ei enaid iddo yn para yn ffyddlon, ac yn ffynonell cysur a dyddanwch iddo fel yr oedd yn gallu dweyd ychydig oriau cyn ymadael ei fod yn myned adref at yr Iesu.

Y dydd Mercher canlynol daeth tyrfa luosog a pharchus yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent eglwys y Bedyddwyr yn Freedom, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ, ac y pregethwyd yn y capel gan y Parch. W. Ogwenydd Evans, oddiar destyn rhoddedig o eiddo ein hymadawedig, sef, "Byw i mi yw Crist. a marw sydd elw" (Phil. I. 12). Cymerwyd rhan hefyd yn y gwasanaeth gan Parch. Mr. Griffiths (T. C.). Cafodd gladdedigaeth barchus. Yr oedd llawer o nodweddion teilwng yn ein brawd i'w hefelychu.

Yr oedd yn ddarllenwr Beiblaldd mawr; yn weddiwr gafaelgar; yn addolwr gwresog; yn wrandawr astud a siriol; yn dwyn mawr sel dros yr achos; yn ffyddlon yn yr holl gyfarfodydd eglwysig a'r ysgol Sabbothol, a.y. yn hynod ffyddlawn yn ei holl gyflawniadau a'i gyfraniadau at bob achos da, a phob amser yn hynaws a charedig. Gadawodd briod hoff a phlant anwyl, yn nghyd â chylch eang o berthynasau, i alaru ar ei ôl. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded iddynt oll.
W. OGWENYDD EVANS.

Y Drych ~ Mai 16eg 1889.